|
Cynhyrchiad Cymraeg newydd OPRA Cymru
|
Fis Mawrth eleni, bydd OPRA Cymru yn mynd ar ei chweched daith genedlaethol gyda chynhyrchiad Cymraeg newydd o gomedi poblogaidd Donizetti, DEIGRYN YN Y DIRGEL (L’Elisir d’Amore). Ar ôl llwyddiant y cwmni yn y gorffennol, byddwn yn ymweld â mwy o leoliadau nac erioed ar y daith hon. Yn serennu eleni fydd y tenor dawnus, Rhodri Prys Jones yn chwarae’r brif ran o Nemorino, Aoife O’Connell fel Adina. Meilir Jones, y bariton o Langefni, yn chwarae rhan Belcore a’r profiadol Gareth Rhys Davies fel y Dr. Dulcamara. Yn ogystal, bydd cerddorfa siambr OPRA Cymru o dan arweiniad Anthony Negus Cyfarwyddwr Cerdd Gŵyl Opera Longborough.
Mae hi’n argoeli i fod y daith orau eto, a braf byddai cael eich cwmni wrth inni fwynhau talentau disglair Cymru.
“Mae hon yn daith nodedig i’r cwmni”, meddai Cyfarwyddwr Artistig Patrick Young, “Hon yw ein cynhyrchiad cyntaf i gynnwys cerddorfa siambr lawn a cyffrous iawn yw bod y cyntaf i berfformio opera wedi’i lwyfannu’n llawn yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Yn ogystal, hyd y gwyddwn, hon fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf o opera boblogaidd Donizetti. Gyda chast talentog iawn yn ein cwmni, dwi’n hyderus y bydd hon yn argoeli i fod yn wledd a hanner!”
|
web site: |
e-mail: |
Monday, February 29, 2016 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999