Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cynhyrchiad Cymraeg newydd OPRA Cymru     

Cynhyrchiad Cymraeg newydd OPRA Cymru
Fis Mawrth eleni, bydd OPRA Cymru yn mynd ar ei chweched daith genedlaethol gyda chynhyrchiad Cymraeg newydd o gomedi poblogaidd Donizetti, DEIGRYN YN Y DIRGEL (L’Elisir d’Amore). Ar ôl llwyddiant y cwmni yn y gorffennol, byddwn yn ymweld â mwy o leoliadau nac erioed ar y daith hon. Yn serennu eleni fydd y tenor dawnus, Rhodri Prys Jones yn chwarae’r brif ran o Nemorino, Aoife O’Connell fel Adina. Meilir Jones, y bariton o Langefni, yn chwarae rhan Belcore a’r profiadol Gareth Rhys Davies fel y Dr. Dulcamara. Yn ogystal, bydd cerddorfa siambr OPRA Cymru o dan arweiniad Anthony Negus Cyfarwyddwr Cerdd Gŵyl Opera Longborough.
Mae hi’n argoeli i fod y daith orau eto, a braf byddai cael eich cwmni wrth inni fwynhau talentau disglair Cymru.



“Mae hon yn daith nodedig i’r cwmni”, meddai Cyfarwyddwr Artistig Patrick Young, “Hon yw ein cynhyrchiad cyntaf i gynnwys cerddorfa siambr lawn a cyffrous iawn yw bod y cyntaf i berfformio opera wedi’i lwyfannu’n llawn yn Theatr Bryn Terfel, Pontio. Yn ogystal, hyd y gwyddwn, hon fydd y fersiwn Gymraeg gyntaf o opera boblogaidd Donizetti. Gyda chast talentog iawn yn ein cwmni, dwi’n hyderus y bydd hon yn argoeli i fod yn wledd a hanner!”
 
web site
:

e-mail:
Friday, March 4, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk