|
Dim theatr i Wrecsam
|
Fydd yna ddim theatr newyd yn Wrecsam - a hynny wedi i'r cyngor ddweud yn bendant ddydd Mawrth na fyddan nhw'n parhau â'r cynllun.
Fis Rhagfyr pleidleisiodd y cyngor i beidio mynd ymlaen â'r cynllun £6m oherwydd costau cynyddol a diffyg cefnogaeth y cyhoedd.
Ond bu raid i'r Bwrdd Gweithredol gael cyngor cyfreithiol cyn cymeradwyo'r penderfyniad wedi i ymddiriedolawyr y theatr arfaethedig fynegi pryderon ar y bleidlais.
Dim rheswm
Ond clywodd y Bwrdd ddydd Mawrth nad oedd yna reswm i beidio rhoi'r gorau i'r cynllun.
Mi fydd grant £4.6m Cyngor Celfyddydau rwan yn mynd yn ôl iddo, ond gobaith y cyngor yw y bydd yna gynlluniau celfyddydol eraill yn y sir yn y dyfodol.
Roedd yr ymddiriedolwyr wedi dweud na chawson nhw gyfle i roi eu hachos, a bu iddyn nhw gyflwyno adroddiad i'r cynghorwyr i'w hystyried ddydd Mawrth.
Dywedwyd wrth y cynghorwyr y byddai raid ad-dalu o leiaf £300,000 i'r Gronfa Loteri os na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, ac mae'r cyngor eisoes wedi rhoi £200,000 tuag at y cynllun.
Cosb
Dywed yr ymddiriedolwyr y bydd raid, hefyd, dalu cosb o £100,000 i'r perchennog tir, Coleg Iâl, os na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.
Yn yr adroddiad, dywedant eu bod yn teimlo iddyn nhw gael eu gadael i lawr gan y cyngor.
Ychwanegant na fyddai'n costio mwy na £12,000 i gael cwmnïau i dendro unwaith eto am y gwaith o godi'r theatr.
Ond dywedodd swyddogion y cyngor wrth y cynghorwyr nad ydy hi'n debyg y bydd unrhyw adeiladwr yn gallu gwneud y gwaith o fewn y pris penodedig. |
bbc
web site: |
e-mail: |
Tuesday, January 20, 2004 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999