|
Penodi Henri Oguike yn Gyfarwyddwr Artistig Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru |
Bydd Henri Oguike, y dawnsiwr a choreograffydd gwobrwyol, yn dychwelyd i’w wreiddiau trwy gymryd swydd gyda DGIC ar gyfer tymor 2004 a 2005. Mae Henri, a ddaw’n wreiddiol o Abertawe, a’i gwmni wedi ennill calon y byd dawns, ac enillodd y categori Cwmni Dawns Newydd Gorau yng Ngwobrau Time Out Live yn 2001. Mae Henri yn gyn-aelod o Dynion, cwmni dawns gwrywod yn unig Cymru. Yn ddiweddarach astudiodd gerddoriaeth, drama a dawns yng Ngholeg Abertawe, cyfuniad a ddylanwadodd ar ddatblygiad ei goreograffi, a ganmolwyd am ei ddefnydd arloesol o gerddoriaeth a symudiad. Daw Henri i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Chwefror gyda’i dîm o ddawnswyr rhyngwladol i redeg cyfres o weithdai rhanbarthol, agored a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael eu dewis am breswylfa haf pythefnos o hyd DGIC yn Theatr Brycheiniog (Gorffennaf 19 – Awst 1, 2004). Mae’r cwrs blynyddol a gweithdai agored yn cynnig cyfle i ddawnswyr mwyaf talentog Cymru fyw a gweithio ochr yn ochr ag un o gwmnïau dawns mwyaf cyffrous Ewrop. Daw’r breswylfa i ben gyda chynhyrchiad gan y myfyrwyr yn Theatr Brycheiniog, ochr yn ochr â Chwmni Dawns Henri Oguike. Enillodd DGIC gefnogaeth gref am ei gynyrchiadau neilltuol, sydd yn y gorffennol wedi defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i drawsnewid gofodau theatr traddodiadol yn ogystal â lleoliadau penodol i safle. Mae enw da Henri fel athro talentog yn ogystal â choreograffydd yn sicrhau bod 2004 yn argoeli i fod yr un mor ysblennydd ar gyfer cynulleidfaoedd a myfyrwyr fel ei gilydd. “I am delighted to have been appointed Artistic Director of NYDW,” dywed Henri, “and look forward to an exciting time ahead.” * Cynhelir y gweithdai ym mis Chwefror a mis Ebrill, 2004 yng Ngogledd, Gorllewin, Canolbarth a De Ddwyrain Cymru a gellir cael rhagor o wybodaeth trwy gysylltu â Gillian Wells ar 029 2026 5006. (E-bost: nydw@nyaw.co.uk) * Am ragor o wybodaeth i’r wasg, ffotograffau a chyfweliadau, cysylltwch â Penny Simpson ar 029 20 265033. “the future of dance” (Big Issue ar DGIC) |
| national youth arts wales web site: |
| penny simpson e-mail: penny.simpson@wjec.co.uk |
| Thursday, January 29, 2004 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd Henri Oguike, y dawnsiwr a choreograffydd gwobrwyol, yn dychwelyd i’w wreiddiau trwy gymryd swydd gyda DGIC ar gyfer tymor 2004 a 2005.