Theatr Iolo |
| Theatr Iolo- Gwrthryfel , , June 26, 1997 |
| Mae Theatr lolo a Theatr Gwent yn parhau a'r daith o gwmpas ysgolion Cymraeg de Cymru gyda'i drama diweddaraf Gwrthryfel. Agorodd y sioe y mis diwethaf ym mhabell Torn Gwent yn Eisteddfod yr Urdd Bro Isiwyn, a bydd y daith yn gorffen ddiwedd wythnos yma gyda dau berfformiad fin nos er mwyn i'r cyhoedd gael profi gwaith sydd wedi ei lunio ar gyfer ysgolion yn y lie cyntaf. Mae Theatr lolo a Theatr Gwent yn mynd a theatr fyw i ysgolion a chynulleidfaoedd cymuned led-led y de-ddwyrain. Mae Gwrthryfel yn edrych ar y berthynas rhwng mudiad cyfrinachol Y Scotch Cattle a Gwrthryfel y Siartiaid yng Nghasnewydd yn 1839. Cododd miloedd o weithwyr Sir Fynwy yn 1839 i ymladd dros siarter y Werin er mwyn sicrhau pleidlais i bob dyn. Nid protest heddychlon oedd hon, ond gwrthryfel yn erbyn y meistri, yr ucheiwyr a'r frenhines. Awgrymir bod y Scotch Cattle wedi cipio'r ymgyrch dros Siarter y BobI er mwyn creu awyrgylch chwyidroadol yn Sir Fynwy cyn ymosod ar yr Awdurdodau a chreu gweriniaeth yng Ngwent. Dyfeiswyd Gwrthryfel gan y Cwmniau i bortreadu y stori unigryw hon mewn geiriau a chaneuon. Bydd y perfformiadau cyhoeddus yn neuadd Llanofer, Treganna Caerdydd heno am saith yr hwyr a nos lau yn Ysgol Bontfaen, Bro Morgannwg. |
Reviewed by: Y Cymro |
This review has been read 4497 times There are 38 other reviews of productions with this title in our database:
|
