|
THEATR BARA CAWS YN LLWYFANNU’R DDRAMA GOMISIWN AM Y TRO CYNTAF ERIOED
|
Bydd Bara Caws yn perfformio’r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd ym mis Awst eleni, sef drama newydd gan y dramodydd Aled Jones Williams – ‘LYSH’ yn THEATR Y DOLMAN, CASNEWYDD (tocynnau: 0845 1221176) – Awst 2ail – 6ed, 2004 am 8.00y.h. Yn dilyn ‘Sundance’ a ‘Be’ O’dd Enw Ci Tin tin?’ mae ‘Lysh’ yn parhau y berthynas arbennig sydd gan y dramodydd unigryw yma â’r cwmni.
Unwaith eto mae Aled wedi ysgrifennu drama sy’n edrych yn ddisyfyd i friw
agored y ddynoliaeth. Alcohol yw’r gwenwyn melys sy’n cynnal a chaethiwo’r
pedwar cymeriad, a datgymaliad o’u perthynas gymhleth a chreulon gyda’r gwenwyn
hwnnw yw craidd y ddrama. Yn seiliedig ar brofiadau’r awdur yn ymgiprys a’i
gythreuliaid personol mae ‘Lysh’ yn daith eirwir, huawdl ac anodd drwy gysgodion sydd
yn disgyn ar draws llwybr sawl un ohonom. Fel yng ngwaith Aled i gyd mae’r ysfa am
atebion cadarn mewn byd simsan yn cymeryd sawl ffurf, yn ‘Lysh’ daw’r dadrithiad nad
yw’r ateb i’w gael yng ngwaelod potel, ond daw hefyd y gobaith a’r sicrwydd ei bod
yn dal yn werth chwilio.
Valmai Jones yw cyfarwyddwr ‘LYSH’ a’r actorion yw – Maldwyn John,
Betsan Llwyd, Rhodri Meilir a Phil Reid – y pedwar yn wynebau adnabyddus
iawn ar S4C ac ar lwyfannau theatrau Cymru.
Yn dilyn perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Awst 2ail – 6ed) bydd
taith fer o Nos Fawrth – Medi 7fed hyd at Nos Iau, Medi 23 o amgylch theatrau Cymru
Neuadd Dwyfor Pwllheli 7 & 8 Medi 7.30
Theatr Gwynedd, Bangor 10 &11 Medi 7.30
Clwyd Theatr Cymru l4 Medi 7.45
Theatr y Sherman, Caerdydd 18 Medi 7.30
Theatr y Werin, Aberystwyth 21 Medi 7.30
Theatr Elli, Llanelli 23 Medi 7.30
AM FWY O WYBODAETH FFONIWCH LINDA BROWN 0128 676335
OS BYDDWCH ANGEN LLUNIAU O’R YMARFERION NEU UNRHYW
WYBODAETH BELLACH CYSYLLTWCH A LINDA BROWN – 01286 676335
|
Cwmni Theatr Bara Caws
web site: |
e-mail: |
Tuesday, July 20, 2004 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999