Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

rhodio'n fras     

Mae Whispers in the Woods/Sibrydion, cynhyrchiad newydd Greg Cullen ar gyfer ThCIC, yn argoeli i fod yn sbloets gweledol anhygoel ar gyfer cynulleidfaoedd - yn ogystal ag yn ysbrydoliaeth i ddarpar fashionistas.

Ysbrydolir y darn gan swrrealaeth y stori dylwyth teg draddodiadol, a bydd drama ddwyieithog Greg ar gyfer cast o 45 yn cynnwys arae hynod o wisgoedd, gan gynnwys ffrog wedi'i gwneud allan o binnau hud a siwt a wnaed yn arbennig ar gyfer blaidd dandi sy'n canlyn Merch Teiliwr. Mae’r sioe am geisio efelychu llwyddiant cynhyrchiad y llynedd, Frida a Diego - stori garu, a enillodd Wobr Cynllunio Cynhyrchiad Gorau yn y Gwobrau Blynyddol Theatr yng Nghymru a gynhaliwyd am y trydydd tro.

“Ein bwriad fydd creu hanes modern cyfoes,” eglura Greg. “Mae'n bosibl mai hud technoleg fodern fydd ein hud ni wrth greu byd lle y gall unrhywbeth ddigwydd, ond byddwn hefyd yn gweithio gyda cherddoriaeth a choreograffaeth wreiddiol, fel y gwnaethom gyda Frida a Diego - stori garu, a chydag amrywiol ffyrdd o ddweud gwahanol storïau, rhai ohonynt yn llawn comedi, gydag eraill yn cael eu hadrodd trwy ddawns a chân yn bennaf."

Mae ThCIC wedi meithrin enw iddo’i hun mewn blynyddoedd diweddar am ddarganfod rhai o’r actorion ifanc gorau sydd bellach yn gweithio ar y llwyfan ac mewn ffilm heddiw - maent yn cynnwys Matthew Rhys, sydd ar hyn o bryd yn ymddangos gyda’r Royal Shakespeare Company, Michael Sheen, Caroline Sheen a Joanna Page.

Gellir gweld Whispers in the Woods/Sibrydion yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Medi 3 a 4), Theatr Gwynedd, Bangor (Medi 7) a Theatr y Sherman, Caerdydd (Medi 10 ac 11). £5 yn unig yw pris pob tocyn ac mae’r perfformiadau gyda’r nos yn cychwyn am 7.30 p.m.

Am ragor o wybodaeth, lluniau a ffilmio cysylltwch â Penny Simpson ar 029 2026 5033.


“100% passion and commitment”
(New Welsh Review ar gynhyrchiad ThCIC Frida a Diego – stori garu)
Th G I C  
web site
:
Penny Simpson
e-mail:
Tuesday, August 10, 2004back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk