|
Adroddiad yn 'hwb i'r theatr'
|
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi cyhoeddi strategaeth i gryfhau'r theatr Saesneg yng Nghymru.
Eisoes mae cynlluniau dyfodol y theatr Gymraeg ar y gweill.
Mae'r adroddiad o blaid Clwyd Theatr Cymru yn canolbwyntio ar gynyrchiadau mawr a gweledigaeth newydd i Theatr Sherman yng Nghaerdydd.
Nod y strategaeth ydi creu "diwylliant theatr cryfach yng Nghymru".
Un o brif cynghorwyr y byd celfyddydol ym Mhrydain, Peter Boyden, sydd wedi paratoi'r strategaeth wrth gyfweithio â chynrychiolwyr theatrau Cymru.
Wedi'r cyhoeddi ddydd Gwener bydd ymgynghori â'r sector, yr awdurdodau lleol a'r llywodraeth.
Mwy o gynyrchiadau
Mae'r Cyngor Celfyddydau'n cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Gwener i drafod yr adroddiad.
Fe fydd gwaith Clwyd Theatr Cymru yn ôl yr adroddiad yn parhau i deithio gyda chyfnodau yn y pencadlys yn Yr Wyddgrug, yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Dyma lwybr cenedlaethol ar gyfer y theatr...nid cynllun i greu un hanfod...ond yn hytrach cais i adeiladu corff o fywyd yn y theatr drwy Gymru
Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Ymhlith yr argymhellion eraill mae penodi cyfarwyddwr artistig yn ne Cymru i fod yn gyfrifol am gynhyrchu a chydlynu prif prosiectau; cynyddu'r cynyrchiadau gan gwmnïau fel Theatr Hijinx a Volcano yn ogystal a sefydlu cwmni sail newydd yn ne Cymru.
Yn ôl Michael Bogdanov, Cyfarwydd Artisig Cwmni Theatr Cymru, theatr yw "curiad calon cymuned".
"Mae'n offeryn ar gyfer newid cymdeithasol ac ar ei orau mae'n gallu newid y ffordd mae pobl yn edrych ar fywyd."
Cyn y cyfarfod yn Aberystwyth dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Geraint Talfan Davies, nad oedd 'na ateb sydyn, tymor byr i'r theatr yng Nghymru.
"Rhaid i ni roi gweledigaeth strategol a fydd yn llywio'r ffordd y byddwn ni'n gwario'r gyllideb bresennol ond yn sylweddoli bod angen adnoddau ychwanegol.
"Pan fyddwn ni'n cytuno ar strategaeth rhaid sicrhau ein bod yn cadw at hynny.
"Dyma lwybr cenedlaethol ar gyfer y theatr.
"Nid cynllun i greu un hanfod ydi hwn ond yn hytrach cais i adeiladu corff o fywyd yn y theatr drwy Gymru sy'n cynnwys amrywiaeth, safon a gweledigaeth sy'n nodweddiadol Gymreig yn ogystal ag agor ein llygaid i weithredoedd theatrau rhyngwladol."
Cynulleidfa newydd
Dywed yr adroddiad bod y theatr Saesneg yng Nghymru dros y blynyddoedd wedi wynebu "diffyg adnoddau, gwerth a datblygiad".
Yn ôl yr actores Sharon Morgan sydd wedi bod yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg nid cael dwy theatr genedlaethol, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg, yw'r ateb.
"Dwi'n credu y dylid cael cwmni theatr ffederal yng Nghymru gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Clwyd, Bangor a Chaerfyrddin a fyddai hefyd yn cynnwys yn theatr mewn addysg, lle fyddai actorion yn gallu bwrw prentisiaeth.
"Gyda theatr ffederal byddai modd i'r ddwy iaith fwydo i mewn i'w gilydd.
"Pan mae actorion yn gadael Cymru dyw hyn ddim yn ein symud ymlaen ac yn creu'r hyder.
"Mae angen llawer mwy o arian ar gyfer arianu'r theatr yng Nghymru."
Dywedodd bod Clwyd Theatr Cymru wedi derbyn £125,000 ar gyfer creu theatr symudol a dim ond £3,500 gawfodd Sharon Morgan i lwyfannu Sianin'n Siarad ac felly mae'n anodd cael cyflog llawn o'r cynhyrchiad.
"Mae nifer yr amrywiaeth a nifer o gynyrchiadau Saesneg wedi gostwng sy'n arwain at ostyngiad yn y nifer o bobl sy'n mynychu'r theatr," meddai'r adroddiad.
"Gyda chymorth y llywodraeth y Cynulliad rydym eisoes wedi sefydlu theatr genedlaethol yn y Gymraeg a gosod theatr i bobl ifanc ar seiliau cadarn," ychwanegodd Mr Davies.
"Dwi'n falch iawn o'r gefnogaeth gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh sydd wedi bod yn gyfrifol am hyn.
"Mae angen ennill cynulleidfa newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru."
Dywedodd bod 'na theatrau hen a newydd angen eu llenwi.
"Ddylai'r un genedl, gyda'n talent sydd ganddom yma, ddim bod heb y ddarpariaeth angenrheidiol," ychwanegodd.
Mae'r amserlen i drafod y strategaeth yn para tan Hydref 22 ac mae'r cyngor yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau drwy'r swyddfa yng Nghaerdydd neu drwy'r we. |
bbc cymru
web site: |
e-mail: |
Friday, September 10, 2004 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999