|
Apêl y Celfyddydau i chwyddo coffrau'r Tsunami
|
Wrth i ffans cerddoriaeath ar draws y DU baratoi ar gyfer gig elusennol yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn annog orielau, theatrau, neuaddau cyngerdd a chanolfannau'r celfyddydau ledled Cymru i ymuno ag apêl elusennol y Tsunami.
"Bu ymateb pobl i'r drychineb naturiol yn un anhygeol," meddai Peter Tyndall, Prif Weithredwr CCC, corff datblygu'r celfyddydau. "Rydym am annog caredigion byd y celfyddydau i wneud eu rhan hwythau trwy gyfrannu i'r apêl ar ddydd Sadwrn 22ain. Gyda chymorth y rhwydwaith o sefydliadau celfyddydol, rydym yn hyderus y bydd pobl Cymru yn parhau i ddangos eu pryder a'u cydymdeimlad mewn modd ymarferol. Deallwn fod nifer o leoliadau a chanolfannau eisoes wedi cynnal apeliadau a fu'n hynod lwyddiannus. Bwriedir i'r cynllun diweddaraf hwn barhau â'r gwaith da a wnaed yn barod."
Mae rhwydwaith rhagorol o ganolfannau'r celfyddydau gan Gymru - o adeiladau cymunedol lleol i adeilad eiconig Canolfan Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd. Ychwanegodd Iestyn Davies, Pennaeth Cyfathrebu CCC, "Ein gobaith yw y bydd pawb sy'n ymwneud â'r celfyddydau yng Nghymru yn ymuno gyda ni ar gyfer y fenter hon ac y bydd cyfle i bawb gyfrannu trwy gyfrwng y rhwydwaith o ganolfannau a geir ledled Cymru. Rydym yn gobeithio hefyd y bydd orielau preifat a sinemau yn ymuno i godi arian hefyd."
Yn ogystal, bydd CCC yn cynnal apêl ymhlith y gwesteion yng Ngwobrau Cymru Greadigol a gynhelir ar nos Wener 21 Ionawr.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog ei gleientiaid i godi arian i'r Pwyllgor Brys ar gyfer Trychinebau (DEC) ar ddydd Sadwrn 22 Ionawr gan gyd-daro â'r gyngerdd "Wave Aid" a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm. Bydd yr arian a godir yn cael ei drosglwyddo'n syth i'r DEC trwy unrhyw fanc neu swyddfa bost neu trwy anfon siec i:
DEC Apêl Tsunami
PO Box 999
Llundain EC3A 3AA
Ceir rhagor o fanylion ar y wefan www.dec.org.uk neu oddi wrth Iestyn Davies yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda:
Iestyn Davies
Pennaeth Cyfathrebu
Cyngor Celfyddydau Cymru
9 Stryd yr AMgueddfa
Caerdydd
CF10 3NX |
Cyngor Celfyddydau Cymru
web site: |
e-mail: |
Wednesday, January 12, 2005 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999