|
Ysgoloriaeth Gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Storïa Digidol/Cyfryngau Dinasyddion ym Mhrifysgol Morgannwg |
Canolfan George Ewart Evans ar gyfer Adrodd Storïau ym Mhrifysgol MorgannwgMae un fwrsariaeth ôl-raddedig ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno cofrestru ar gyfer Gradd Meistr trwy Ymchwil a fydd yn cychwyn ym mis Medi 2006. Mae BBC Cymru Wales gyda chefnogaeth Meistr trwy Ymchwil mewn Storïa Digidol/CyfryngauDinasyddion yn dynodi cychwyn cydweithredu cyffrous rhwng Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans ym Mhrifysgol Morgannwg a BBC Cymru Wales. Efallai y bydd yr ysgoloriaeth ymchwil hon o ddiddordeb i’r sawl a gafodd radd yn ddiweddar mewn Drama, y Cyfryngau, y Celfyddydau Creadigol neu ddisgyblaethau perthnasol eraill , neu bobl sy’n gweithio ym maes adrodd storïau, y cyfryngau darlledu neu gyfryngau digidol. Seilir yr ymchwil ar waith ymarferol a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygiad Storïa Digidol yng nghyd-destun cynllun buddugol y BBC, Capture Wales/Cipolwg ar Gymru. Rhagwelir y bydd y gwaith ymchwil yn dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o gynyrchiadau Storïa Digidol. Bydd y gwaith yn rhoi sylw arbennig i ddarganfod ffurfiau newydd o storïa digidol a fydd yn addas ar gyfer adroddwyr storïau nad ydynt yn broffesiynol ac a fydd yn llunio storïau ar gyfer eu cyhoeddi ar draws rhychwant eang o gyfryngau, gan gynnwys radio, teledu a’r we. Lleolir yr ymgeisydd llwyddiannus yng Nghanolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans y tu mewn i Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwydiannol Caerdydd ym Mhrifysgol Morgannwg a bydd yn cwblhau cyfnod hyfforddi sylweddol gyda BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd. Bydd y tîm arolygu yn cynnwys aelodau o staff Prifysgol Morgannwg gyda chefnogaeth gogyfer â mentora a chefnogaeth ychwanegol gan BBC Cymru Wales Bydd cyfnod y fwrsariaeth yn parhau am flwyddyn neu ddwy flynedd yn rhan-amser. Mae’n cynnwys grant cynhaliaeth sy’n ddi-dreth yn ogystal â thaliadau ar gyfer pob ffi. Disgwylir i chi: Feddu ar radd 2:1 mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol sylweddol Feddu ar y gallu i wneud gwaith ymchwil gwreiddiol a fydd yn arwain at MRes a gwblheir oddi mewn y cyfnod a neilltuwy Fod yn hyddysg yn y gwaith o ddefnyddio meddalwedd y cyfryngau Feddu ar brofiad o weithio mewn projectau cymunedol Feddu ar wybodaeth ac/neu ymddiddori mewn adrodd storïau Feddu ar fedrau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog Fedru gweithio ar eich pen eich hun Feddu ar wybodaeth ynghylch y Sector Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru Fod wedi cwblhau cwrs israddedig/ôl-raddedig mewn methodoleg ymchwilio yn llwyddiannus neu feddu ar brofiad helaeth o waith ymchwil proffesiynol. Am ragor o fanylion a ffurflen gais neu ymholiadau anffurfiol cysylltwch â: Emily Underwood, Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans, T? Crawshay, Prifysgol Morgannwg, Pontypridd, CF37 1DL Ffôn. 01443 483312, E-bost: efunderw@glam.ac.uk Dydd Gwener 30ain o Fehefin 2006 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos 17eg o Orffennaf 2006. |
| Canolfan George Ewart Evans web site: |
| Emily Underwood e-mail: efunderw@glam.ac.uk |
| Tuesday, June 20, 2006 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Canolfan George Ewart Evans ar gyfer Adrodd Storïau ym Mhrifysgol Morgannwg