|
CRASH yn y gorllewin
|
Crash ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Firenza Guidi
Mae ELAN Cymru, Adran Gelfyddydau Perfformio Coleg Sir Gâr a LLAIS wrthi’n ymarfer ar hyn o bryd ar gyfer “Crash”. Cyn bo hir bydd perfformwyr a thechnegwyr ifanc o Sir Gaerfyrddin yn cydweithredu â pherfformwyr ifanc eraill o’r Eidal, Yr Almaen, Ynys yr Iâ a Ffrainc mewn perfformiad promenâd byw yng Ngerddi Aberglasne. Bydd y perfformiad “Crash” yn cael ei ddyfeisio’n benodol i’r Gerddi.
Ar waelod y llyn mae cerrig caled. Mae popeth yr ydych yn eu taflu yno’n troi’n garreg. Beth oedd y pethau hyn o’r blaen? Byw neu ddifywyd? Esgidiau neu ffurfwisgoedd neu bobl? Meddyliau, neu ddinasoedd mwd wedi eu claddu dan y ddaear?
Perfformiad safle-benodol yw Crash sydd yn cymryd y cwestiwn fel man cychwyn: ydy dymchweliad yn arwydd o ddechreuad newydd ynteu ymgais i ddileu olion o’r gorffennol?
“Bydd y perfformiadau yn Aberglasne yn benllanw i’r ‘Creatio – prosiect gorsafoedd p_er creadigol’. Mae’r prosiect wedi cynnwys perfformiadau safle benodol rhyngysylltiedig ond unigryw ymhob un o’r pum gwlad partner rhyngwladol. Mae wedi dangos artistiaid ifanc sydd, wrth weithio ochr yn ochr â thîm Ewropeaidd o ymarferyddion proffesiynol wedi creu sioeau gwefreiddiol gan gymysgu theatr gorfforol, naratif, dawns, cerddoriaeth byw a sioeau gweledol dynameg, a chyfuno gosodiadau o oleuadau a thafluniadau DV byw.
Bydd cyfranogion “Crash” yn integreiddio perfformwyr Ewropeaidd ifanc gyda chynrychiolwyr o LLAIS, Coleg Sir Gâr ac ysgolion lleol.
Disgrifiodd y wasg gynhyrchiad y Cyfarwyddwr Firenza Guidi o ‘Immortal’ ar gyfer “No Fit Sate Circus” fel “profiad a fydd yn aros gyda chi am byth”.
Y perfformiadau yn Aberglasne ar 31ain Awst a 1af Medi fydd yr unig berfformiadau yn y DU o’r prosiect anhygoel hwn. Heb os bydd cefndir syfrdanol y gerddi’n creu ymdoddiad bythgofiadwy o osodiadau byw mewn lleoliad bythgofiadwy.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau, felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01558 668998 er mwyn sicrhau eich lle. (Sylwch mai perfformiad dull promenâd yw e felly bydd nifer cyfyngedig o seddau.)
|
ELAN Wales
web site: |
e-mail: |
Wednesday, August 16, 2006 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999