Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

At Sgript Cymru

Sgript Cymru- Life of Ryan...and Ronnie , Wales Millennium Centre, Cardiff , October 24, 2005
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Golwg 20-10-05
Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd.


[English Translation appears at the end of this review=

Mae’r ddrama Life of Ryan ...and Ronnie wedi llwyddo i adrodd hanes un o ddeuawdau mwya’ adnabyddus Cymru yn onest a gafaelgar, yn ôl Emyr Edwards...

Mae’r golau’n codi ar noson gynta’ drama ddiweddara’ Meic Povey, sef Life of Ryan ...and Ronnie yn stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd. Disgwyl, fel arfer, am berl arall gan y dramodydd, Meic Povey.

Dau actor sy’n cyflwyno’r holl ddigwydd yn y sgript a thrwy gydol y perfformiad. Yn ddoeth, nid yw Aled Pugh (Ryan) na Kai Owen (Ronnie) yn mentro portreadu’r cymeriadau fel charicatures o’r gwreiddiol.

Er hynny, mae ymddangosiad cynta’ Aled Pugh yn sefydlu’n grefftus tu hwnt holl osgo ac ystum ac ymddangosiad Ryan fel y cofiwn ef, trwy’r węn heintus a’r dafod megis sbaniel yn llyfu gweflau.

Y mae Kai Owen, yntau, hefyd, wedi dal hanfod Ronnie, hanner stręt y bartneriaeth. Mae’r ddau actor yn dal yn gyson trwy gydol y digwydd at y nodweddion canolog hyn.

Mae’r sgript, sydd yn neilltuol o finiog a threiddgar, yn dehongli prif nodweddion y ddau ddigrifwr, wrth bortreadau profiad Ryan a Ronnie ar lwyfan ac ar y cyfryngau.

Ond yn bennaf, y mae Meic Povey wedi ceisio, a llwyddo, i fynd tu hwnt i fywyd y ddau ar lwyfan, ac i mewn i fyd preifat y ddau.

Daw’r ddau fyd, yr un theatrig a’r un preifat, yn gyson fyw yn nwylo’r ddau actor, ac fel y mae’r perfformiad yn symud yn ei flaen, ceir bod mwy o bwyslais ar y preifat, ac yna’r tristwch sydd ynghlwm wrth yr elfen honno.

Mae Aled Pugh yn llwyddo i gynnal asbri a miri Ryan trwy’r holl ddadlau a’r anniddigrwydd rhwng y ddau. Llwyddodd Kai Owen, yntau, yn ei dro, i bortreadu’r cynnydd yn yr amheuon ac iselder meddwl a ddaeth i ran Ronnie.

Wrth i’r ddrama ddatblygu, mae’r sesiynau o ddadlau, o bigo beiau ac o ddiflastod rhwng y ddau yn cynyddu, yn arbennig yn yr ystafell wisgo. Collir cyswllt â’r perfformio i gynulleidfa, wrth i’r dramodydd dreiddio i’r hyn sydd yn digwydd tu cefn i’r goleuadau llachar.

Ar brydiau, y mae’r golygfeydd hyn yn llusgo braidd wrth i Kai Owen ymestyn yr ysbeidiau yn ei areithiau. Hwyrach mai ansicrwydd y noson gynta’ oedd hyn. Ar y llaw arall, mae’n bosib dehongli hyn fel dirywiad graddol ym meddwl Ronnie. Ond mae angen cwtogi’r ysbeidiau.

Hyd at yr hanner ffordd yn y perfformiad yr oedd amseru’r ddau actor yn rhagorol wrth i anghenion y sgript a’u dehongliad hwy ohono adlewyrchu’r sbîd a oedd yn nodweddiadol o Ryan a Ronnie.

Ond, o hynny ymlaen hyd y diweddglo, arafu braidd wnaeth tempo’r cyflwyniad.

Gan nad oedd ymdrech i adlewyrchu lleisiau gwreiddiol Ryan a Ronnie, a hynny’n ddoeth hwyrach, gan y ddau actor, nid oedd lle yn y sgript i or-bwysleisio’r elfen ganu.

Yn hytrach, y mae llawer mwy o gyfle i’r actorion yn y cynhyrchiad hwn i roi blas allweddol ar y cellwair rhwng y ddau ddigrifwr.

Mae Aled Pugh a Kai Owen wedi llwyddo i gynnal rhythmau’r cellwair hwnnw wrth iddyn nhw bortreadu’r digrifwyr yn uniongyrchol o flaen eu cynulleidfaoedd. Mae angen mwy o sylw ganddyn nhw i wrthdaro’r digrifwyr yn eu sesiynau yn yr ystafell wisgo. Ar y llaw arall, mae’r portreadau oedd y cwmwl o dristwch a’r ymdeimlad sydd ym mywydau llawer o brif ddigrifwyr hanes, sef yr haen o drueni a phathos sydd o dan wyneb ymdrech i greu chwerthin.

Gosodwyd set briodol i’r chwarae (Max Jones), yn cynnwys blaen llwyfan i berfformiadau Ryan a Ronnie, cefn llwyfan yn cynnwys drych a goleuadau’r ystafell wisgo, ac awgrym hirgul o fyrddau cabaret ar hyd y llwyfan de.

Yr oedd hyn yn hen ddigon i gynnwys holl gampau’r ddau gymeriad trwy gydol y perfformiad. Roedd goleuo Jeanine Davies yn gelfydd iawn.




Originally published in Golwg 20-10-05. Reproduced with kind permission.

According to Emyr Edwdards, the play Life of Ryan …and Ronnie has succeeded honestly and tenaciously to tell the tale of one of Wales’s most well know duos …

The lights rise on the first night of Meic Povey’s latest play, Life of Ryan …and Ronnie, at the Weston Studio, Welsh Millennium Centre. I am expectant, as usual, for another pearl by by playwright, Meic Povey.

Two actors convey the story and the script through the play. Very wisely, neither Aled Pugh (Ryan) nor Kai Owen (Ronnie) tries to portray the characters as caricatures of the original.

Aled’s first appearance skilfully sets Ryan’s appearance as I remember him. Kai also catches the essence of Ronnie, the straight half of the partnership. Both actors retain these pivotal traits through the play.

The script, which is extremely sharp and incisive, interprets the main characteristics of the two comedians, by portraying Ryan and Ronnie on stage and television.

But mainly Meic Povey has attempted and succeeded in going beyond the life of the duo on stage and delve into their private lives. The two lives, theatrical and private become alive in the hands of the two actors and as the performance moves on there is more emphasis on the private and the sadness associated with this.

Aled Pugh succeeds to maintain Ryan’s sprightliness and joviality via the bickering and discontent between the two. Kai Owen also succeeds to portray the increase in the doubt and depression that came Ronnie’s way.

As the play progresses, the bickering, the faultfinding and the tedium between the two increases especially in the dressing room. We lose contact with the performing to an audience element as the dramatist delves into what happens behind the bright lights.

At times these scenes drag a bit as Kai Owen extend the pauses in the speeches. Maybe this was the uncertainty of the first night on the other hand this could be interpreted as the gradual decline in Ronnie’s mental health. But the pauses need to be shortened.

Up to half way through the timing was excellent as the needs of the script and their portrayal of it reflects the state that was typical of Ryan and Ronnie. But from then onwards the tempo slowed down somewhat.

As there had not been an attempt to recreate the vocal attributes of Ryan and Ronnie, quite wisely, by the two actors, there was not much scope in the script to over emphasise the singing element. Instead there was much more opportunity for the actors in this production to give a crucial taste of the banter between the two entertainers.

Aled Pugh and Kai Owen have succeeded in maintain the rhythm of this banter as they portray the entertainers directly in front of an audience. They need to give more attention to the friction between the entertainers in the dressing room but on the other hand these portrayals catch the essence of the deterioration of the relationship between the two, as they get more and more fed-up of each other’s company.

One major thing that came out of the portrayals was the veil of sadness and the feeling that is in the lives of many of the great entertainers – the layer of pity and pathos that lies under the surface in the effort to create laughter.

The appropriate set (Max Jones) contained a stage front for Ryan and Ronnies’ performances, a back stage containing a mirror and dressing room light and an oblong hint of cabaret tables along the stage right. This was ample to contain their antics through the performance. Jeanine Davies’s lighting was skilful.

Reviewed by: Emyr Edwards

back to the list of reviews

This review has been read 3026 times

There are 70 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk