Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

At Sgript Cymru

Sgript Cymru- Drws Arall I’r Coed , Canolfan Celfyddyddau Chapter, Caerdydd , February 5, 2005
Mae’r profiad o wylio Drws Arall I’r Coed yn eitha tebyg i fwyta bocs o siocledi – mae pob un ohonynt yn hyfryd ar ei ben ei hun, ond mae’n lot gwell i gael y bocs i gyd. Ac mae pob un o’r dramâu bach yma yn dda ar ei ben ei hun, ond mae’n well i’w mwynhau nhw gyda’u gilydd, fel profiad cyflawn.

Mae’r pump dramâu – Clint gan Manon Wyn, Adduned gan Dyfrig Jones, Dail At Y Lawnt gan Caryl Lewis, Cadw Oed gan Eurgain Haf a Phriodas Alwminiwm gan Gwyneth Glyn – yn hollol wahanol i’w gilydd ond mae’r themâu yn debyg, sef dechrau a gorffen perthnasau, gyda’r cynulleidfa yn ymuno â chwpl ar foment arwyddocaol yn eu perthynas nhw. Mae’r pump ohonynt yn defnyddio’r un set, sydd yn rhoi teimlad o gyfrol, yn hytrach na phump dramâu unigol.

Hyd yn oed cyn i’r actorion yn Clint yn dechrau siarad, mae’r ddrama hon yn llawn tyndra. Mae Arwel Jones yn eistedd ar fwrdd picnic yn ysmygu am tua phump munud. Mae defnydd o dawelwch yn effeithiol iawn – rhaid gofyn am bwy mae e’n aros, a pham.

Rydym yn ymuno â chymeriadau Dyfrig Jones yn Adduned ar Noson Galan, ond mae’n amlwg nad yw pawb yn mynd i gadw eu addunedau o gwbl. Mae’r ffordd ei fod yn symud rhwng y ddau berthnasau sy’n ganolog i’r ddrama yma yn effeithiol iawn.

Mae Dail Ar Y Lawnt gan Caryl Lewis yn edrych ar berthynas sy’n mynd i gael ei ddinistrio gan gyfrinach, ac mae Cadw Oed gan Eurgain Haf yn ymdrin â pwnc mwy difrifol, sef marwolaeth plentyn.

Priodas Alwminiwm yw’r drama hiraf, yn llenwi ail hanner y sioe. Mae Gwyneth Glyn yn ennill sylw ei chynulleidfa ar unwaith, gan fod ei drama yn agor â’r geiriau “Dwi wedi newydd lladd rhywun”. Ac er bod testun ei sgript yn eitha difrifol, mae hi’n defnyddio hiwmor ysgafn, sydd yn ychwanegu lot i’r ddrama bach hon.

Mae pedwar actor yn berfformio pob rôl heno – Huw Davies, Arwel Gruffudd, Mali Tudno Jones a Nia Magdalen – ac er eu bod nhw i gyd yn dda iawn, dwi’n credu mai’r ysgrifennu sydd yn fwy allweddol heno. Mae’n braf i weld gwaith newydd a ffres o bum dramodwyr ifanc yn cael eu cynhyrchu fan gwmni professiynol, dwi’n si_r eu bod nhw wedi cael eu hysbrydoli gan gyngor Sgript Cymru, sydd yn peth da i ddyfodol drama Cymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at weld myw o’r pump dramodwyr ifanc.


Pwllheli: Neuadd Dwyfor, 8 & 9 Chwefror 7.30 pm
Tocynnau: 01758 704 088

Rhosllanechrugog: Y Stiwt, 11 & 12 Chwefror
Tocynnau:

Bangor: Theatr Gwynedd, 15 & 16 Chwefror 7.30 pm
Tocynnau: 01248 351 708

Aberystwyth: Canolfan y Celfyddydau, 17 & 18 Chwefror 7.30pm
Tocynnau: 01970 623 232

Abertawe: Theatr Dylan Thomas, 22 & 23 Chwefror 7.30 pm
Tocynnau: 08700 13 18 12

Caerdydd: Chapter, 25 & 26 Chwefror 8pm
Tocynnau: 029 2030 4400

Reviewed by: Cathryn Scott

back to the list of reviews

This review has been read 2102 times

There are 70 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk