Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

At Sgript Cymru

Sgript Cymru- Drws Arall I’r Coed , Neuadd Dwyfor, Pwllheli , March 2, 2005
Mae rhywbeth yngl?n â choedwig - dirgelwch, perygl, rhamant.
Gall, hefyd, gynnig diogelwch a chynhesrwydd. Dysgais hynny pan euthum ar goll un tro tra'n cerdded ym mynyddoedd y Cévennes a hithau'n nosi a theimlo'r ryddhad a'r gollyngdd o gyrraedd coedwig.

Pum drama wedi'u gosod mewn lle coediog - neu o leiaf fan lle mae coed yn drwm o gwmpas y cymeriadau.

Pedair dramodig oddeutu deng munud o hyd i fyny i'r egwyl a drama hwy, hanner awr wedi'r toriad. Dyna gawson ni yn Drws Arall i'r Coed gychwynnodd ar daith o gwmpas Cymru yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd, Chwefror 2.Dramâu ydyn nhw eginodd yn ystod cwrs i sgrifenwyr ifanc a drefnwyd gan sgript cymru yng Nghanolfan Sgrifennu Hurst, Cwm Clun, Sir Amwythig, Rhagfyr 2003, a'u datblygu wedi hynny.

Mae'n amlwg i'r lle, yn fwriadol neu fel arall, wneud argraff ar y pum dramodydd y llwyfennir eu gwaith yn Drws Arall i'r Coed.

Ond perthynas pobl, nid y safle, sy'n bwysig yn y dramâu hyn:
Pobl ifanc ansicr - a phobl ganol oed ansicr, hefyd - pobl eisiau caru, eisiau cael eu caru, yn ofni bod heb neb i'w caru yw'r thema ym mhob un.

Hen deimlad a theimlad sy'n newydd - thema oesol.

Picnic
Cafodd Clint gan Manon Wyn, drama gyntaf y noson, dipyn o effaith arnaf.

Dau gymeriad, dyn yn ei bedwar-degau a merch yn ei harddegau - y ddau'n cyfarfod o gwmpas bwrdd picnic yn y coed.

Cawn argraff bod y ddau'n disgwyl am rywun, ond o dipyn i beth fe gawn deimlad anghysurus mai yno i gwrdd â'i gilydd y maen nhw.

Mae'r tyndra sinistr yn tyfu wrth inni sylweddoli mai wedi cysylltu â'i gilydd drwy stafell sgwrsio ar y we maen nhw. Y ferch yw'r olaf i sylweddoli mai y dyn hwn fu'n sgwrsio â hi ar y we.

Carwriaeth
Mae Adduned Dyfrig Jones yn fwy uchelgeisiol.
Tri chymeriad, a'r stori'n sboncio rhywfaint 'nôl a blaen mewn amser.

Carwriaeth rhwng y sgrifennwr a'r ddarlithwraig gyda g?r y ddarlithwraig - cyfrifydd - yn y cysgodion.

Gwneir tipyn o ddefnydd o gysgodion i newid golygfeydd.

Ond mae'r stori braidd yn denau ac heb ddatblygu llawer.

Stafell wely
Ffrae stafell wely yw Dail ar y Lawnt
gan Caryl Lewis.

Mae Karen yn pincio i fynd mâs gyda'r awgrym ei bod yn mynd i weld rhyw gariad.

Mae Gareth, ei g?r, yn dod i mewn o'r ardd ac yn raddol mae'r edliw yn dechrau a'r storm yn crynhoi.

Dirdynnol
Mae Cadw Oed gan Eurgain Haf yn ddrama fach wir ddirdynnol.

Mae Ela, gyda phram, ar ei ffordd drwy'r goedwig i weld ei g?r ond mae'r llwybr wedi ei gau am fod y comisiwn yn torri coed.

Mae tipyn o ffrae yn cychwyn rhyngddi hi â Meical, sy'n gorfod atal cerddwyr rhag cerdded hyd y llwybr.

Yn raddol datgelir trasiedi annisgwyl ym mywyd y ddau ac am bobl sy'n methu dygymod â sefyllfaoedd anghysurus.

Hanner awr
Priodas Alwminiwm Gwyneth Glyn yw'r ddrama hanner awr.

Mae Jean a Medwyn yn dathlu deng mlynedd o fywyd priodasol digon anhapus drwy fynd i fwrw'r Sul mewn pabell, fel gwnaethon nhw ar eu mis mêl.

Mae'r ddeialog ar ffurf llawer o edliw gan Medwyn ac ymddiheuro ar ran Jean.

Mae ei hymddygiad hi ar ôl taro rhywun wrth ddychwelyd yn y car o'r siop tships yn gwbl anhygoel.

Mae rhyw awgrym y bydd popeth yn well yn y dyfodol. Anodd credu.

Rhaid canmol yr actorion bob un - Huw Davies, Arwel Gruffydd, Mali Tudno Jones a Nia Magdalen - am gyfrannu'n fawr iawn i'n mwynhad o'r noson.

Reviewed by: Gwyn Griffiths

back to the list of reviews

This review has been read 2281 times

There are 70 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk