At Sgript Cymru |
Sgript Cymru- Amdani , Aberystwyth Arts Centre , September 28, 2003 |
Mae’n anhebygol iawn y sylweddolodd Bethan Gwanas, wrth gyhoeddi ei nofel gyntaf, Amdani!, yn 1997, y byddai’r nofel hynny yn esgor ar (o leiaf) 5 cyfres deledu ac un drama lwyfan. Beth felly a roddodd Bethan Gwanas i’r byd yn 1997? Ffenomenon diwylliannol i’r Gymru Gymraeg gyfoes, neu un stori dda sydd wedi ei heijacio a’i ddefnyddio hyd syrffed? Beth bynnag am hynny, cais Sgript Cymru, i lwyfannu Amdani!, yn ogystal a chais Theatr Gwynedd i lwyfannu Dan y Wenallt fu’n llwyddiannus wrth dderbyn £100,000 yr un gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o’i strategaeth dros y 5 mlynedd nesaf i ddatblygu cynulleidfaoedd theatr cyfrwng Cymraeg. Mae strategaeth o’r math yma, un sy’n ymddangos i fod yn un i gynyddu ‘bums on seats’, a hynny yn unig,, heb unrhyw gyfeiriad at ddyheadau nac amcanion artistig, yn siwr o beri anesmwythyd i rai. Hynny yw, dyma gais, ac arian mawr (o’r diwedd) i geisio llanw ein theatrau; ond a oes yna bris artistig i’w dalu ? A oes modd cael cynyrchiadau artistig, meddylgar, heriol sy’n torri tir newydd ac sydd hefyd yn mynd i ddenu miloedd i’n theatrau? Oes modd cyfuno’r ddau beth? Cwestiwn rhy fawr i drafod yma, ond mae’n debyg mae chwarae yn saff gwnaeth C.C.C. wrth ddewis ceisiadau Theatr Gwynedd a Sgript Cymru. Y naill yn ‘glasur’ a record da o lanw theatrau dros degwadau, ar llall yn lyfr a boblogeiddiwyd gan gyfres deledu ar S4C. Dechreuodd y ddrama, a gyfarwyddwyd gan Elen Bowman, yn egniol a brwd, gyda chyflwyniad i’r criw benywaidd sy’n gatalydd i egni’r ddrama. O’r criw, portread Ffion Dafis o Llinos a argyhoeddodd fwyaf, gan brofi ei bod hi’n medru tywys Llinos o’r sgrin i’r llwyfan yn hollol ddi-drafferth. Dyma’r cymeriad benywaidd sydd yn sicr fwyaf crwn, gan adael i rai eraill o’r criw ymddangos ychydig yn un deimensiwn. Llwyddodd Ffion Dafis i gyfleu holl gymhlethdod a gwrthdaro mewnol Llinos i’r gynulleidfa heb ddisgyn i felodrama gwag. Argyhoeddodd yn ei brwdfrydedd i ddechrau tim rygbi, a’i anhapusrwydd dyddiol, ac felly mae ei chwymp i freichiau Gareth, hyfforddwr golygus y tim, yn ogystal a’r dicter a’r euogrwydd sy’n dilyn, yn ymddangos yn naturiol o anochel. Yn goctel o rhegfeydd, hiwmor, alcohol a brad, carlamodd yr hanner gyntaf yn ei flaen, ar set hyblyg ac effeithiol Hayley Grindle, a goleuo Elanor Higgins yn ein tywys o leoliad i leoliad yn ddi-drafferth. Tasgodd o asbri a bwrlwm y cast, ac fe ddaeth llawer o’r bywyd, a’r hiwmor, o gymeriad Sian Caerberllan, a bortreadwyd gan Sara Lloyd. Roedd ei hamseru comig yn berffaith – mae yna obaith i gomedi yn Gymraeg wedi’r cyfan. Disgleiriodd drwy’r ddrama drwyddi draw. Gwelwyd newid wedi’r hanner cyntaf. Wedi’r ysgafnder, difrifolodd pethau wedi’r egwyl. Heb yr hiwmor, a chwythodd cymaint o ‘’fynd’ i’r hanner cyntaf, a chyda troadau difrifol, cyflwynwyd, i raddau, her newydd i’r cast yn yr ail hanner. Teimlodd fel drama hollol wahanol. Gan Huw Garmon oedd y dasg anodda, wrth bortreadu Wayne, gwr Llinos. Llwyddodd, wrth gynildeb disgybledig, i amlygu ei erwinder anymunol ar ddechrau’r ddrama, tra hefyd yn dangos ei sensitifrwydd a’i boen ar y diwedd. Er gwaethaf her y pegynnu emosiynol hyn, a allai fod wedi peri anhawster i actor llai profiadol, fe argyhoeddodd; a braf oedd gweld actor mor brofiadol ar lwyfan unwaith yn rhagor. Ond siomedig, i raddau, oedd y tro difrifol, gyda’r mantra o fod y tim, a’r criw o ffrindiau, yn fwy pwysig na unrhyw chwerwder a brad, ddim cweit yn taro deuddeg. Felly, a lwyddodd Amdani!? Bums on seats? Ar y noson fues i, doedd Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ddim hanner llawn, a oedd yn siom ddifrifol, (er, yn ol pob son, roedd yn llawnach y noson blaenorol). Ond, roedd chwerthin y gynulleidfa, yn ogystal a bwrlwm y canmol hanner amser yn tystio i’r ffaith fod y ddrama yn cynnig chwip o noson dda. Ond onid yw’n rhyfedd mae Sgript Cymru oedd yn cynhyrchu’r sioe ?. Nid oes amheuaeth bod Sgript Cymru wedi dechrau meithrin lleisiau newydd ar gyfer y theatr iaith Gymraeg eisioes, gyda Diwrnod Dwynwen, a roddodd gyfle euraidd i ddramodwyr ifanc ddangos eu gwaith ar ol wythnos o gwrs yn Nhy Newydd. Rol y cwmni, yn ol eu llith eu hunain, yw “darganfod, meithrin a hyrwyddo lleisiau newydd a chyffrous ar gyfer y llwyfan” ac mae ganddynt “ymroddiad i gynhyrchu ysgrifennu newydd”. Onid yw’n eironig fod y cwmni, sydd am fagu lleisiau newydd a chyffrous ar gyfer y llwyfan, yn troi at destun nad sy’n newydd, na chwaith yn gyffrous (o safbwynt theatrig, beth bynnag) ?. Mater o raid efallai, ond peth pryder hefyd ? Gyda dyfodiad Theatr Genedlaethol Cymru, a fydd yn llwyfannu dramau prif ffrwd,y gobaith yw y rhyddheir Sgript Cymru i ganolbwyntio yn llawn ar fagu leisiau newydd; sef yr hyn, heb unrhyw amheuaeth, y mae’n gwneud orau. |
Reviewed by: Kate Woodward |
This review has been read 3068 times There are 70 other reviews of productions with this title in our database:
|