|
Mae myfyrywr Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau Prifysgol Cymru Bangor yn perfformio'r ddrama "2" gan Aled Jones Williams a hynny am y tro cyntaf erioed. Drama ddwyieithog gynnar yw "2" sydd i raddau'n adleisio themau "Ta-Ra Teresa", gyda dwy wraig yn cyfarfod mewn angladd. Gwraig yr ymadawedig yw'r Gymraes Anwen, tra roedd Rachel y Saesnes yn feistres. Arbrawf y myfyrwyr Ann Barker a Lois Cernyw yw ffeirio'r rhannau ar ol y noson gyntaf, gyda gwahaniaethau tafodieithol sylweddol ar gymeriad Rachel. Ar un noson, wraig o Lerpwl ydyw, tra'i chwareir hi ar y noson arall fel gwraig o ganol Lloegr. Perfformir "2" yn Neuadd John Phillips Bangor ar y nosweithiau canlynol: nos Fercher Ionawr 26 am 5. 30 nos Iau Ionawr 27 am 7. 30 Am fwy o fanylion: 01248 383206 n.ros@bangor.ac.uk |
| web site: |
| nic ros e-mail: n.ros@bangor.ac.uk |
| Thursday, January 20, 2005 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
