|
SIOE GERDD THEATR NA N’OG YN PARATOI I FYND AR DAITH
|
Yn sgîl yr ymateb ysgubol mae perfformiadau ychwanegol wedi eu hategu at daith Theatr na n‘Og o’r sioe gerdd newydd Melangell - Y Dywysoges a’r Heliwr, ac mae’r cwmni a’r canolfannau perfformio yn annog y gynnulleidfa i archebu eu tocynnau ‘nawr. Bydd y cynhyrchiad hwn, sy’n addas ar gyfer pob oedran, yn teithio led-led Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg o’r 17ain Chwefror tan 18fed Fawrth 2005.
Mae’r ymarferiadau bellach ar droed i’r cast o wyth o actorion/cerddorion talentog Cymraeg sy’n wynebu’r sialens o berfformio’r sioe yn yr iaith Gymaraeg a’r iaith Saesneg. Gyda chaneuon o waith Dyfan Jones (To Kill a Mockingbird; Rape of the Fair Country) a geiriau gan Bardd Plant Cymru, Tudur Dylan Jones, dyma un digwyddiad eleni na allwch ei golli!
Ar ffo o’r Iwerddon, mae’r Dywysoges Melangell yn ceisio dianc rhag y briodas sydd wedi’i threfnu ar ei rhan. Wrth gyrraedd Cymru, daw’r Dywysoges hardd o hyd i loches yng Nghwm Pennant – llecyn anghysbell ond prydferth ym mherfeddion Powys, daw Melangell yn ffrind da i’r holl greaduriaid.
Ond un diwrnod, daw tro ar fyd gyda dyfodiad y Tywysog barus, Brochwel. Yn poeni am eu bywydau, mae’r anifeiliad yn troi at eu ffrind, Melangell am gymorth.
Mae’r cynhyrchiad hwn wedi’i addasu o’r fersiwn wreiddiol a lwyfanwyd gan Theatr na n’Og fel Sioe Blant Eisteddfod Genedlaethol Meifod lle’r ymddangosodd 160 o blant ysgolion Powys i gymeradwyaeth ysgubol cynnulleidfa o 3,000!
Mae Melangell/Y Dywysoges a’r Heliwr yn agor yn Saesneg yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 17eg o Chwefror 2005 ac yna’r teithio i ddeg canolfan led-led Cymru yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg tan Ddydd Gwener 18fed o Fawrth 2005. Mae’r daith yn cynnwys perfformiadau cyntaf y cwmni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yng Nglan yr Afon yn Nghasnewydd.
Dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig Theatr na n’Og, Geinor Jones, a gyda Chynllun Set a Gwisgoedd Angharad Roberts a Chynllun Goleuo Ceri James, mae Melangell/Y Dywysoges a’r Heliwr yn sioe gerdd hudolus newydd gyda chaneuon fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl gadael y theatr!
Tocynnau ar werth yn awr yn y canolfannau canlynnol led-led Cymru.
|
Theatr na n'Og
web site: |
e-mail: |
Tuesday, January 25, 2005 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999