|
Y WIBDAITH WIRION gan Daniel a Matthew Glyn
|
Unwaith eto mae Bara Caws yn torri tir newydd wrth fynd a’u cynulleidfa ar drip i’w gofio. Fe fydd bws Y Wibdaith Wirion yn cychwyn o faes parcio’r Half Way yn y Felinheli am l0.45 a 2.45 pob dydd gan fynd a’r gynulleidfa lwcus ar antur lawn o hwyl a gwallgofrwydd.
Fe fydd Tudur Owen, Llyr Evans, Rhodri Meilir Jâms Thomas a Lisa Jên Brown ac ambell i westai enwog anturus yn crwydro bro’r Eisteddfod gan gyfarfod llu o gymeriadau doniol ar y ffordd a chael sawl profiad na welodd y traws Cambria erioed mo’i debyg.
Mae’n brofiad fydd yn apelio i’r teulu i gyd ac mae’n hanfodol eich bod yn prynu neu archebu’r tocynnau yn gynnar – drwy ffonio Bara Caws 01286 676335 (cyn wythnos yr Eisteddfod) neu mi fydd na fwth gwerthu tocynnau yn y maes parcio yn yr Half Way, Felinheli yn ddyddiol agored o l0.00y.b. tan 4.00y.h. Bydd modd hefyd prynu tocynnau yn Theatr Fach y Maes ar faes yr Eisteddfod diwrnod o flaen llaw.
Dowch hefo ni ar y Wibdaith Wirion – hwyl ddi-stop ar fws Bara Caws.
Gafaelwch yn dynn mae’n mynd i fod yn daith i’w chofio…….!!!!
|
Bara Caws
web site: |
e-mail: |
Wednesday, July 6, 2005 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999