Theatr na n'Og |
Theatr Na N'og- Halen yn y Gwaed , Abertawe , November 16, 2005 |
Ar noson wyntog a stormus yn Abertawe, roedd yr awyrgylch yn berffaith ar gyfer gwylio drama wedi'i lleoli ar fwrdd llong yng nghanol môr tymhestlog. Halen yn y Gwaed yw cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Na N'og, un o brif gwmnïau theatr mewn addysg Cymru. Trwy gydweithio ag Amgueddfa Abertawe, nod y ddrama fywiog a chyffrous hon yw dod â hanes morwrol Abertawe yn fyw i blant yr ardal. Caiff y plant gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy drama gyda'r actorion, yn ogystal â gwneud gweithgareddau addysgol yn yr Amgueddfa a dysgu sgiliau morwrol fel clymu rhaffau. Mae fersiwn Saesneg - Stowaway - yn cydredeg â hi, sy'n golygu y bydd 6,000 o blant blwyddyn 5 a 6 Abertawe, Castedd-nedd a'r cyffiniau wedi bod yn rhan o'r prosiect arbennig hwn erbyn Rhagfyr 9. Ein tynnu i'r ddrama Cawsom ein tynnu mewn i'r ddrama yn syth - ac yn llythrennol! Wrth i'r gynulleidfa sgwrsio yn y cyntedd, ymddangosodd y Capten Richard Lewis - gwˆr barfog a ffyrnig yr olwg - i'n tywys i mewn i'r theatr fach. Hyrddiodd sachau at ddau aelod o'r gynulleidfa, a bu'n rhaid i ddau arall sgwrio'r 'dec', a oedd wedi'i ail-greu ar y llwyfan. Roedd y rhai lleiaf yn y gynulleidfa yn rowlio chwerthin, a hoeliwyd eu sylw ar y llwyfan o'r funud honno tan y diwedd. Llanc yn ei arddegau Hanes Morris Lewis a gawn yn y ddrama - llanc yn ei arddegau o Abertawe sydd wedi cuddio ar fwrdd llong Richard Lewis er mwyn rhedeg i ffwrdd. Wrth i'r llong ruthro yn ei blaen at Valparaíso yn Ne America, datgelir rhagor am fywyd Morris a'r cyswllt go agos sydd rhyngddo a'r Capten. Trwy gyfrwng ei lythyrau at Ruth, ei ffrind gorau, clywn sut y bu'n gweithio'n ddiflino yng ngwaith copr Abertawe, a pham y bu iddo gefnu ar y ddina. Cawn hefyd gip ar Ruth wrth ei gwaith, yn gweini mewn tyˆ^ mawr yn Abertawe. Gwelwn mor anodd oedd bywyd i bobl ifanc gyffredin ar anterth yr oes ddiwydiannol, heb obaith cael addysg a gwell cyflog. Serch hynny, nid yw'r ddrama'n llawn ffeithiau hanesyddol sych ac nid oes unrhyw beth pregethwrol yn ei chylch. Daw'r cyfnod yn fyw drwy'r stori, y cymeriadau a chaneuon bywiog Greg Palmer. Heb ddiflasu Mae'r ddrama'n ddigon syml i blant blwyddyn 5-6 ei dilyn, ond mae ynddi ddigon o antur, rhamant a hiwmor i ddiddanu plant hyˆn ac oedolion hefyd. Mae taflen â braslun o'r stori ar gael i ddysgwyr, a chan mai 50 munud yn unig yw hyd y perfformiad, nid oes perygl i unrhyw un ddiflasu. Gwneir defnydd hynod effeithiol o olau, mwˆg a sain er mwyn ail-greu amodau gorthrymus y gweithiau copr, ac mae'r set siâp llong yn sicrhau bod y gynulleidfa'n teimlo'n rhan o'r ddrama. Llwyddodd y cast bychan - Dion Davies, Huw Davies a Naomi Martell - i gadw'u perfformiadau'n syfrdanol o egnïol gan symud yn rhwydd o un cymeriad i'r llall. Rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Naomi Martell am iddi actio dau gymeriad mor gwbl wahanol gydag argyhoeddiad, sef Ruth y ferch ifanc addfwyn a Henry Jones y morwr garw. Awchu am fwy Pan ddaeth y perfformiad i ben, synhwyrwn fod y gynulleidfa'n awchu am fwy. Roedd felly'n braf iawn clywed y bydd Halen yn y Gwaed yn cael ei haddasu i fod yn Basiant y Plant yn Eisteddfod Abertawe yr haf nesaf. Rwy'n siwˆr y caiff plant Abertawe hwyl aruthrol o gael actio yn y ddrama hon, a da o beth fydd rhoi cyfle i gynulleidfa ehangach ei mwynhau. |
Reviewed by: Eiry Miles (Gwefan BBC Cymru) |
This review has been read 2051 times There are 36 other reviews of productions with this title in our database:
|