Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Awr o fwynhad pur yn sioe blant Melangell.

Theatr na n'Og

Theatr na n'Og- Melangell , Eisteddfod 2003 - Meifod , August 4, 2003
Roedd bod yng nghefn y llwyfan yng nghanol y cast o 160 o blant, wrth iddynt gael cyngor munud olaf gan Geinor Jones, Cyfarwyddydd sioe Melangell yn argoeli'n dda. Roedd pob un o'r cast yn eistedd yn gwrando ar y cyfarwyddiadau â brwdfrydedd ar eu wynebau, cyn troedio yr un mor frwdfrydig ar y llwyfan.

Adrodd y chwedl leol am Felangell yr oedd sioe blant ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod. Daw Melangell a'i ffrind Mari i ddyffryn hudol o wlad Erin, a gwneud ffrindiau gyda'r anifeiliaid maen nhw'n eu cyfarfod yno.

Ond mae Brochwel, y dyn cas, o gwmpas, ac yn barod i hela'r anifeiliaid. Ond gyda help Melangell a Mari mae tynged yr anifeiliaid yn ddiogel.

Chwedl ramantus, a'r plant yn amlwg wedi eu hymroi eu hunain yn llwyr i'r stori.
Prif gymeriadau : perfformio rhagorol
Gall sioeau plant fod braidd yn anodd eu deall weithiau - mae'r canu a'r llefaru yn dueddol i fod yn aneglur, ond nid felly sioe Melangell - o gwbwl. Cafwyd actio a chanu rhagorol drwyddi draw.

Rhaid canmol perfformiad y prif gymeriadau. Roedd Steffan Jones, sef Brochwel yn arbennig o dda. Llais cryf a chlir am blentyn ysgol cynradd. Roedd ei lais canu yn creu argraff hefyd. Mae'r un peth yn wir am Catrin Evans oedd yn chwarae Melangell a Sara Rhys Vaughan, sef Mari. Roedd pob un o'r prif gymeriadau "wedi tynnu'r stops i gyd allan!"

Cafodd y sioe hon ei chynhyrchu gan gwmni Theatr Na n'Og, Geinor Jones oedd y Cyfarwyddydd Artistig, Dyfan Jones yn Gyfarwyddydd Cerdd a sgrifennwyd geiriau'r caneuon gan Tudur Dylan Jones. Roedd hi'n werth cael cwmni proffesiynol i gynhyrchu, yn fy marn i, roedd yn sicr yn ychwanegu at broffesiynoldeb y sioe.


Roedd y gwisgoedd a'r set - er yn ddigon syml - yn argyhoeddi. Pob un o'r plantos bach wedi gwisgo fel anifail, neu rywogaeth o fyd natur. Ddim yn aml y byddech chi'n disgrifio caws llyffant, yn "ciwt" , ond roedd y ddau blentyn bach yn eu gwisgoedd, yn werth eu gweld!

Yr unig gwyn, neu siom oedd gan y gynulleidfa wrth iddyn nhw adael y pafiliwn, nos Sadwrn, oedd bod y sioe braidd yn fyr. Prin awr oedd ei hyd, ond i mi, roedd yn gorffen yn ei flas. Roedd y plant yn ffresh ac yn bloeddio canu tan y nodyn ola'. O ystyried oed ifanc rai ohonyn nhw, byddai bod ar y llwyfan yn hirach, o bosib yn eu blino ac yn gostwng lefel y perfformiad.

Fel adolygwr y sioeau nos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, roeddwn yn gadael y pafiliwn ar fy noson gynta' wedi fy mhlesio ac yn edrych ymlaen nawr at y wledd sydd gan yr wythnos i'w chynnig.

Reviewed by: Elin Wyn Davies. (BBC ar lein)

back to the list of reviews

This review has been read 3038 times

There are 36 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk