Theatr na n'Og |
Theatr na n'Og- Melangell , Theatr Gwynedd Bangor , February 22, 2005 |
Gyda hela'n cael ei wahardd yr wythnos ddiwethaf, efallai mai cyd-ddigwyddiad oedd llwyfannu sioe am Melangell - ynteu oedd hyn yn fwriadol? Beth bynnag, y stori ydy fod Melangell wedi dianc o Iwerddon rhag gorfod priodi a storm fawr wedi ei gyrru i Gymru. Rhywsut mae'n cyrraedd Llanfihangel ym Mhennant ond mae'r lle'n anarferol o ddistaw gan nad oes yr un aderyn nac anifail i'w glywed. Mae'r Tywysog Brochwel wedi eu lladd i gyd. Ond mae yna ambell un ar ôl yn cuddio y tu ôl i raeadr - sgwarnog, carw, mochyn daear, ci d?r a thylluan - ond yr un llwynog! Efallai na ddaeth y ddeddf atal hela llwynogod i rym mewn pryd yno! I'r teulu Sioe gerdd i'r teulu yw Melangell, ac roedd Theatr Gwynedd, Bangor, yn llawn i'r ymylon - tri-chwarter y gynulleidfa yn blant - ar gyfer noson gyntaf y sioe, er i fersiwn Saesneg deithio'r de yn gynharach. Roedd y stori'n afaelgar, y canu a'r caneuon yn dda - yn amrywio o gerddoriaeth Geltaidd hudolus i faledi i roc a wnâi i'r gynulleidfa guro dwylo i'r curiad. seren y sioe Ond efallai mai seren y sioe oedd y set. Roedd coeden dew bob ochr i'r llwyfan ac yn y canol llenni tryloyw yn cyfleu coed neu raeadr ac yn newid eu lliwiau bob hyn ac hyd yn oed yn gwneud i'r rhai oedd yn canu y tu ôl i'r llenni edrych fel rhyw fath o rith. Dechreuodd y sioe gyda Brochwel (Daniel Lloyd) yn cerdded i'r llwyfan - yn ei ddillad canoloesol a gitâr drydan, fodern - a rhaid canmol yr actorion i gyd. Nid yn unig yr oedden nhw'n actio, ond roedden nhw hefyd yn canu ac yn cyfeilio i'r caneuon - fel arfer y tu ôl i'r llenni ar y llwyfan, weithiau tra'n actio. Roedd yna amrywiaeth o gymeriadau. O'r Felangell (Elin Llwyd) ddiniwed i'r blaidd Rheibus creulon, cas (Neil Williams), ac i Sioned y sgwarnog (Carys Gwilym) oedd yn gwneud i'r plant chwerthin. Cafwyd dau bâr o ddybl-acts. Gwyddno a Chaswallon (Dyfrig Wyn Evans a Phylip Harries), dau o weision Brochwel, a Brython a Tudur (Rhodri Evan a Phylip Harris), y mochyn daear a'r tylluan. A chafwyd hiwmor yma hefyd. Gwyddno a Chaswallon oedd â'r potensial gorau i fod yn wir ddoniol, ond ni wireddwyd hyn yn llawn. Gydag un yn dal a thenau a'r llall yn bwtyn tew, roedd digon o sgôp i ddatblygu'r cymeriadau ond ni wnaed hynny. Yn annaturiol, cafodd Dyfrig (Dyfrig Wyn Evans) y ci d?r sylw a chwerthin y plant drwy ei sôn am 'bw-pw', a chafodd yr oedolion hwyl wrth iddo sôn ei fod yn chwilio am ddynes 'ci d?r'. Plesio'r bechgyn Rheibus y blaidd oedd 'dyn drwg' y sioe - ond oedd o ddigon milain i ddychryn y plant? Nagoedd, a chredaf fod y cwmni wedi methu ar gyfle i greu rhywfaint o arswyd i roi cydbwysedd i'r hwyl. Ond mi roedd udo Rheibus wedi plesio'r bechgyn yn y gynulleidfa, gan fod y rhan fwyaf yn ei ddynwared yn ystod y toriad hanner amser! Nid plentynnaidd Er mai sioe i'r teulu oedd hon, doedd hi ddim yn sioe blentynnaidd, ac yn rhywbeth y gallai'r oedolion yn y gynulleidfa eistedd yn ôl a'i mwynhau. Wyth o actorion oedd yna yn y cast, a nifer ohonyn nhw'n chwarae dau gymeriad, a rhaid eu canmol am newid eu dillad mor sydyn a newid o fod yn gerddorion i actorion. Diwedd y stori yw fod y blaidd yn cael ei ladd, mae'r anifeiliaid sy'n weddill yn cael byw ac mae'r adar yn dychwelyd - ac mae pawb yn hapus - gan gynnwys y gynulleidfa. Drwy'r cyfan - ar wahân i chwerthin i driciau'r sgwarnog a churo dwylo i'r caneuon gafaelgar - roedd y plant yn ddistaw ac yn amlwg yn mwynhau'r sioe. Yn y rhaglen, roedd yna luniau o anifeiliaid i'w lliwio ond rwy'n sicr na fu i un o'r plant gydio mewn pensel yn ystod y sioe fyrlymus, llawn hwyl hon. Ie, sioe gwerth ei gweld - hyd yn oed os ydych chi'n cefnogi hela. |
Reviewed by: Dafydd Meirion |
This review has been read 2462 times There are 36 other reviews of productions with this title in our database:
|