Arad Goch |
Arad Goch- Conffetti , Eisteddfod 2005 , August 6, 2005 |
Crash oedd teitl y ddrama roedd Arad Goch wedi’i hysbysebu fel eu drama ar gyfer wythnos yr Eisteddfod eleni, ond oherwydd salwch un o aelodau’r cast a gyda ychydig ddyddiau yn unig o rybudd, fe berfformiwyd Conffeti yn ei lle, ail-lwyfaniad o ddrama berfformiwyd am y tro cyntaf yn 2002. Er bod y cast o dri wedi chwarae’r un rhannau yn y llwyfaniad gwreiddiol, mae’r ffaith ei bod hi’n wedi’i llwyfanu ar gymaint o fyr rybudd yn ei gwneud hi’n fwy rhyfeddol byth mai dyma un o gynhyrchiadau cryfaf yr wythnos hon. Mae hi’n ddiwrnod priodas tad Mark a Steve, ac mae’r ddau frawd yn cyfarfod am y tro cyntaf ers wyth mlynedd, ers i Mark godi’i bac a gadael Steve ar ei ben ei hun gyda’i dad yn dilyn marwolaeth eu mham. Yno hefyd yn dathlu mae Luke, cyfaill Mark a Steve o’u harddegau, ac ef sy’n gyfrifol am dywys y gynulleidfa drwy hanes y ddau frawd. Luke yw storiwr y noson ac wrth iddo adrodd hanes y tri mae’r parti priodas yn troi’n noson o hel atogion, y cyfeillgarwch, yr hwyl, straeon sydd yn aml yn ddigri a hwyliog, ac weithiau’n drist a dirdynnol. Roedd y llwyfannu’n hynod o syml a chynnil ac yn hollol effeithiol; roedd y set wedi’i lunio o dri rostra du, nid oedd yna unrhyw newid yn y goleuo plaen drwy gydol y perfformiad, ac roedd newidiadau gwisgoedd wedi’i gyfyngu i ddim ond i dynnu siacedi’r siwtiau. Serch hynny, roedd nifer lleoliadau gwhanaol y ddrama yn niferus, ynghyd a’r anghenion effeithiau sain. Dyma oedd prif gryfder y cynhyrchiad: roedd y lleoliadau’n cael eu hawgrymu a’r effeithiau sain yn cael eu creu drwy ystumiau a synnau a grewyd gan y tri actor, yn ogystal a’r pyiau o gerddoriaeth a oedd yn cael eu perfformio ganddynt drwy gydol y perfformiad. Roedd y cynhyrchiad yn amlwg wedi’i ganoli’n dyn o amgylch y tri actor gan mai nhw oedd yn gyfrifol am bopeth. Roedd angen felly cael tri actor hyblyg iawn er mwyn medru cyrraedd anghenion y darn ac roedd donniau Rhys ap Trefor, Owain Llyr Edwards and Iwan Charles yn llenwi’r anghenion hynny’n hawdd. Nid yn unig roedd yn rhaid iddynt fod yn actorion cryf, roedd angen iddynt fod yn berfformwyr cryfach, ac roedd y tri yn arbennig o dda yn y ddau ystyr. Iwan Charles a Rhys ap Trefor oedd yn chwarae rhan y ddau frawd, Mark a Steve. Roedd yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau, a hawdd iawn oedd credu’r berthynas. Roedd yma ddyfnder i’r perfformiadau; sawl tro y sylwais ar Steve yn sefyll ar ei ben ei hun heb ddweud na gwneud dim ond bwyta’i greision, ond roedd yn amlwg ar wyneb Rhys ap Trefor fod yna lawer iawn yn digwydd ym meddwl Steve. Er bod emosiwn ffyrnig y ddrama yn bennaf yng ngholygfeydd y ddau frawd, yn enwedig y rhai diweddaraf, roedd y ddau hefyd yn gyfrifol am lawer o’r hiwmor. Er nad oedd yna fawr o jocs fel y cyfryw yn y sgript roedd amseru comic yr actorion, Iwan Charles yn enwedig, yn troi’r llinellau mwyaf diniwed, megis y ffaith bod Mark yn gobeithio priodi, cael ty “a pets a ballu” yn hynod o ddigri. Er nad yw’n actor cyn gryfed a’i ddau gyd-berfformiwr, roedd cyfranniad Owain Llyr Edwards yn grefftus ac yn hanfodol. Ac er mai cymeriad eilradd yw Luke ym mhlot y ddrama, fe fuaswn yn dadlau mai’i ran ef yw’r un pwysicaf yn y cynhyrchiad. Yn ystod sawl golygfa rhwng y ddau frawd, roedd Owain Llyr Edwards yn eistedd a’r ochr y llwyfan yn chwarae’i gitar, yn isgerddoriaeth i ddigwyddiadau’r ddrama. Ni fuasai’r olygfa drist wrth i’r ddau frawd drafod marwoleath eu mam wedi bod hanner mor effeithiol oni bai bod yna gerfforiaeth dyner wedi’i chwarae drwyddi. Yn yr un modd, wrth i Mark drio tagu Steve trwy glymu’i dei’n rhy dyn, roedd lefel y sain a chyflymder y gerddoriaeth yn cynyddu wrth iddo fygu. Luke oedd hefyd yn aml yn gwneud synnwyr o’r plot, yn esbonio’r digwyddiadau neu’n rhannu’i farn a’r gynulleidfa, ac eto roedd effeithiolrwydd y ddrama yn ddibynnol ar hynny. Ni fuasai’r diweddglo wedi bod hanner mor effeithiol heb i Luke ddatgan yn ddi-emosiwn, “Mae pethau’n digwydd weithiau, tydi?” Os oedd yna un broblem gyda’r perfformiadau, yr anghysonebau yn llafariaeth y ddeialog oedd hynny. Ar y cyfan, roedd y ddeialog yn sgyrsiol a naturiol, ac felly roedd ffurfioldeb rhai brawddegau yn tarddu ar natur lafar y script. Er enghraifft, fe ddywedodd Mark “anghofies i” pan yn hytrach y buaswn wedi disgwyl iddo ddweud “nesh i anghofio.” Ond wrth gwrs, mater bach ydi peth fel hyn pan mae’r perfformiadau mor gryf. Wrth gwrs, mae hi o hyd yn haws creu perfformiadau crefftus fel hyn pa’n mae’r script a’r cyfarwyddo, y ddau gan Sera Moore Willaims, mor fedrus a’i gilydd ac yma eto roedd Conffeti yn rhagorol. Roedd yr ysgrifennu’n gryno ac yn llawn drama heb unwaith fod yn felodramatic. Er bod yna sawl digwyddiad yng nghefnidir y ddau frawd (megis y cyffuriau, marwoaleth y fam, y lladrata, y tad tresigar) a fuasai o bosib wedi cael eu defnyddio fel canolbwynt drama arall, yma roeddent yn cael eu dangos fel un elfen o stori fwy ac roedd y ddrama yn gryfach oherwydd hynny; nid oedd yma unrhyw farnu na chondemnio o’r yfed na chymeryd cyffuriau na’r tor-cyfraith a gyflawnwyd gan y tri. Yn hytrach fe gafwyd portread sensitif o blant, yn dilyn diffyg arweiniad gan eu tad, oedd bellach ar goll yn y byd. Os oedd un cymeriad yn cael ei gondemnio yn y darn, y tad di-enw oedd hwnnw, ac un o drasediau mawr y ddrama oedd gwybod bod ei wraig newydd ddim ond mis i ffwrdd o roi genedigaeth i’w drydydd plentyn. Drama am fethiannau oedolion sydd yma ac nid drama am ieuenctid wedi mynd yn rhemp. Mae hi’n ddrama amserol tu-hwnt. Er bod hyn i gyd yn swnio’n ofnadwy o lleddf, a fod yna dristwch a siomedigaethau cyffyrddadwy yn mywydau’r tri, rhaid pwysleiso bod yna lif o dynerwch yn rhedeg drwy gydol y ddrama. Er bod yn well gan Mark fynd i yfed gyda’i dad yn hytrach na gwylio’i frawd bach yn perfformio rhan blodyn mewn drama, fe ddangoswyd yn yr olygfa ganlynol ei fod, gyda llafn rasal, wedi cerfio siap blodyn ar ei fraich, ynghyd ag enw Donna, ei gariad. Ni ddywedywd be na pwy oedd y blodyn i fod yn symbol ohono, ond weithiau mae dweud dim yn datgelu’r cyfan. Roedd y cyfarwyddo yn dynn a chywrain, ac er bod y set yn noeth ac na ddefnyddiwyd unrhyw brops nag effeithiau sain technnegol, roedd hi wastad yn hawdd dehongli lleoliad yr olygfa. Heb silffoedd na troli, roedd hi’n bosib gweld yn syth ein bod ni mewn archfarchnad a hynny’i gyd o ystumiau’r actorion. Yn yr un modd yn ddiweddarach, fe grewyd arced a hynny dim ond trwy efelychu synna’r gemau a’r peiriannau gamblo. Conffeti yw’r cynhyrchiad mwyaf theatrig, grymus, a chelfydd yr wyf wedi cael y pleser o’i weld yn ddiweddar, ac mae hi’n haeddu cael ei gweld gan lawer mwy na’r gynulleidfa fach oedd yn y theatr yr un noson a mi. |
Reviewed by: Gareth Evans |
This review has been read 2047 times There are 21 other reviews of productions with this title in our database:
|