Arad Goch |
| Arad Goch , Arad Goch, Aberystwyth , February 24, 2015 |
Cael fy nhywys ar daith oedd yn llawn dychymyg wrth deithio i fyd breuddwydion. Yn wir roedd ‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro?’ yn dangos elfennau graenus o baratoi oedd yn deffro dychymig hyd yn oed myfi sydd yn 19 mlwydd oed. Roedd y profiad yn hollol newydd i mi gan mae un o’r pethau cyntaf a ofynnwyd oedd tynnu’n esgidiau, teimlaf roedd hyn yn effeithiol iawn gan ychwanegu at naratif y darn, oherwydd yn amlwg byswn yn tynnu ‘sgidiau cyn mynd i’r gwely. Roedd yr elfen o gerddoriaeth yn ychwanegu elfennau synhwyrol iawn i’r perfformiad. Gan mae perfformiad oedd yn ategu at yr oedran 3-7, teimlaf fod y cynhyrchiad yma wedi trawsgyfeirio theatr draddodiadol ac ymgeisio i ddysgu rhifedd a gramadeg i’r plant mewn ffordd liwgar iawn, creu anifeiliaid a synau car allan o nwyddau meddal megis clustog neu flanced, ac yna yn gadael ein dychymig ni i grwydro a chreu breuddwydion gan greu darluniau cyffrous. Perfformiad hollol naturiol oedd yn crynhoi meddwl plentyn. |
Reviewed by: Sian Elin Williams |
This review has been read 1923 times There are 21 other reviews of productions with this title in our database:
|

Cael fy nhywys ar daith oedd yn llawn dychymyg wrth deithio i fyd breuddwydion. Yn wir roedd ‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro?’ yn dangos elfennau graenus o baratoi oedd yn deffro dychymig hyd yn oed myfi sydd yn 19 mlwydd oed.