Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Llew Lletchwith , Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth , May 25, 2004
Roedd Theatr y Werin yn llawn plant eiddgar yn disgwyl cynhyrchiad diweddaraf Arad Goch. Addasiad o lyfr Gwyn Morgan oedd y sioe, a chredaf fod addasu llyfrau’n weledol ar lwyfan fel hyn yn syniad ardderchog ar gyfer yr oedran 7-11 oed. Mae’n creu diddordeb mewn llyfrau ac yn sbarduno ambell un i fynd i chwilio am gopi ar silffoedd y llyfrgell

Heb ddatgelu gormod o’r plot, stori am gowbois yw hi, wedi ei lleoli yn salŵn Lwlw Lewis ym mhentre Gwlff Garw. Yn wahanol i’r llyfr, cawn wybod yn syth fod Lwlw a Llew wedi priodi ac mae’r sioe’n dechrau yng ngwledd eu priodas. Cen Cwrw, ffrind pennaf Llew yw’r gwas smala, ac yn yr un araith briodas mae’n adrodd hanes ‘y dydd sul ofnadwy ‘na pan gafodd Gwthgan Jenkins, y baddie, ei ryddhau o garchar San Antonio. O dipyn i beth mae Gwthgan a’i griw yn dychwelyd i Gwlff Garw er mwyn dial ar y siryff Llew a anfonodd ef i’r carchar ugain mlynedd ynghynt am grogi defaid. Dyfalwch chi pwy yw’r arwyr ar ddiwedd y stori!

Daliwyd sylw’r plant o’r eiliad gyntaf pan gawsom arddangosfa o ddawnsio llinell egniol iawn gan y pump actor. Yr un actorion oedd yn perfformio am 50 munud yn ddi-stop, er fod yna oleiaf ddeg cymeriad yn cael eu portreadu i gyd! Roedd hyn ychydig yn ddryslyd i’r plant ieuengaf, ond nid bai’r actorion oedd hynny o gwbl. Roedd yr actio’n wych a’r cymeriadu gwahanol yn golygu fod yn rhaid i’r gynulleidfa, a’r actorion fod ar flaenau eu traed o hyd. Roedd cymeriad Lwlw Lewis yn arbennig wedi dal yn nychymyg llawer o’r plant oherwydd ei gwisg drawiadol.

Roedd y gwisgoedd i gyd yn effeithiol a gwnaed defnydd da o’r ychydig o brops, fel yr hetiau a’r gynau. Hoffais y rhan pan oedd Cen Cwrw’n defnyddio’r brws llawr fel dryll. Roedd y newid cymeriadau’n slic a di-ffws. Roedd y set yn dal llygad, ond nid yn tynnu sylw’n ormodol oddi wrth fwrlwm a chyffro’r stori. Sylw un plentyn oedd – “Trueni na fydden nhw wedi newid y set yn yr ail hanner fel roedd y salŵn ugain mlynedd yn gynt” Sylw digon craff a synhwyrol yn fy marn i hefyd. Roedd y goleuadau yn effeithiol, yn enwedig pan oedd Gwthgan a’i griw’n mynd nol i’r pentre ar gefnau’u ceffylau. Roedd wynebau’r dihirod yn ddigon i godi ofna ar y Gorllewin Gwyllt i gyd!

Fe basiodd yr amser yn hynod o gyflym – arwydd o fwynhad rwy’n siŵr, ac roedd y diweddglo yr un mor gyffrous a’r dechrau. Mae gen i awydd ymuno a dosbarth dawnsio llinell ar ôl gweld y perfformiad. Roedd holl gynhwysion sioe ardderchog ynddi – digon o chwerthin (“Beth am hoe fach? – Hoi!), tristwch (crio truenus Lwlw), rhamant, ymladd a’r cyfan yn wledd i’r llygad.

Edrychaf ymlaen bob amser at weld cynhyrchiad o safon uchel gan Arad Goch, ac ni chefais fy siomi’r tro hwn chwaith.

Reviewed by: Meinir Edwards, Athrawes bl 5 Ysgol Rhydypennau

back to the list of reviews

This review has been read 2282 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk