Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Riff , ar daith , April 6, 2004
Gellid meddwl mai peth anodd fyddai trafod cyflafan Ysgol Columbine ar lwyfan, yn fyw gerbron cynulleidfa ifanc. Heblaw am erchylltra’r peth ni _yr neb pam yn union y saethodd y ddau fachgen un ar ddeg o’u cyfoedion ac un athro yn farw. Gellid meddwl mai tasg anoddach fyddai perthnasu hyn â chynulleidfa Gymraeg. Ond dyna a wnaeth sioe ddiweddaraf Arad Goch, RIFF, a gyfarwyddwyd gan Sêra Moore Williams.

Yn RIFF, gwelwyd dau ddyn yn cyrraedd y llwyfan, y naill yn cymryd ei gitâr a dechrau chwarae riffiau trwm, y llall yn sefyll ar erchwyn y llwyfan cyn dechrau traethu am ei fywyd. Mewn pymtheg golygfa fer, ar lwyfan syml, datgelwyd profiadau Cymro ifanc a gafodd ei wthio i’r ymylon ac sy’n chwilio am ffordd i ymateb.

Dywedwyd wrthym mai Syb (‘Sub’)oedd hwn, bachgen sy’n cael ei ddadrithio wrth iddo dyfu, yn ‘sub’ i dîm yr ysgol, a chanddo feic gwahanol i bawb arall, syb sy’n gorfod delio â gelynion, sy’n cael ei fwlio, sy’n cael trafferthion siarad â’i rieni, sy’n cael adroddiad gwael o’r ysgol, sy’n derbyn cosb anghyfiawn. Ac sydd, er gwaethaf popeth, yn dod o hyd i’w ddelwedd ei hun, yn herio’r drefn, ac yn disgrifio’i fywyd wrthym ar fydr a chân. Ar ddiwedd y daith, cawn wybod iddo ymateb mewn ffordd arbennig i gyflafan Columbine: dringodd i ben sgaffald a phaentio tair ar ddeg o rosys cochion ar wal yr ysgol, un i bob person a laddwyd.

Roedd cynnildeb yn rhedeg drwy’r sioe ar bob lefel. Sgaffald oedd y set syml a ddaliai’r cerddor ar blatfform uwch na’r prif actor. Ar gefn y set, roedd sgrîn lle chwaraewyd delweddau llonydd a symudol – yn ddelweddau o rosys cochion gan fwyaf. O flaen y sgrîn, ’roedd grid â 13 o rhosys wedi’u plethu i fewn iddo. Ar yr ochr arall, ’roedd t_r sgaffald ac arno fwrdd du a ddefnyddid gan Syb i olrhain ei fywyd, o’r darluniau ysgol (car oren i Dad ac enfys i Mam) i osodiadau yn disgrifio’i hunan (‘bad son’).

O flaen y set hwn aeth Darren Stokes ar drywydd Syb mewn monolog wedi’i gyfansoddi’n gelfydd mewn rhythm ac odl. Aeth â ni drwy rigwm a rap i diriogaeth barddoniaeth dipyn mwy aruchel, gyda chyfeiriadau cyson at Shakespeare yn britho’r cyfan. Mentraf ddweud fod iaith y ddrama’n ymylu ar weithio mewn ffordd Shakespearaidd gyda’r mydr, y sain a’r odl yn cyfleu egni a theimlad, a churiad calon y dyn ifanc o’n blaenau. Safai’r dyn ifanc ar erchwyn y dibyn gydol y sioe, yn llawn teimlad, yn barod i ffrwydro. Atgyfnerthwyd hyn gan gerddoriaeth trwm y gitâr a chwarewyd gan y cerddor Owain Ll_r Edwards (sydd hefyd yn actor profiadol). Safodd yntau uwchben y cyfan yn ‘cyfeilio’ gyda riffiau trwm ac ambell gân dynerach, fel rhyw fath o alter ego i Syb, yn un â’i drywydd emosiynol. Nid oedd eiliad o seibiant i’r actor na’r cerddor wrth iddynt greu byd aflonydd ac egniol dyn ifanc sy’n ferw o deimladau.

Aeth y ddrama â ni o blentyndod i sylweddoliad, gyda dyn ifanc yn gweld fod rhaid iddo ymateb mewn rhyw fordd i’r hyn sydd o’i gwmpas. Safodd y cerddor allan o’i rôl ar y diwedd i ddweud wrthym am ymateb arbennig Syb wrth iddo baentio’r rhosys a’r geiriau ‘There if I grow the harvest is your own’ ar y wal.
Pwysigrwydd y gwaith hwn yw ei fod yn theatr berthnasol, cyfoes, a deniadol. Mae hon yn sioe galed i’r actor, ac yn un sy’n gofyn am wrando a syllu gofalus gan y gynulleidfa. Ond dyna’r her, i greu gwaith anodd sy’n denu a difyrru ar yr un pryd â phrocio’r meddwl a’r cydwybod. Dyma waith o’r safon uchaf eto gan un o brif gwmnïau Cymru.

Reviewed by: Lisa Lewis

back to the list of reviews

This review has been read 1961 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk