Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro , Arad Goch, Aberystwyth , February 24, 2015
Arad Goch by Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro Wedi i mi gamu fewn i gylch perfformio breuddwydiol ‘Oes rhaid i mi ddeffro?’, teimlais yn syth cynnwrf ac egni synhwyrusol lle rhoddwyd rhyddid i’r meddwl ddychmygu tu hwnt i’r llwyfan.

Yn sicr, mae’r cwmni theatr mewn addysg yma wedi maestroli’r elfennau addysgiadol o fewn y perfformiad mewn modd syml ac effeithiol. Drwy gynnwys symudiadau arwyddocaol, llawn hiwmor a oedd yn ymwneud â sgiliau rhifedd a gramadeg, teimlais ei fod wedi cyd-fynd â meddylfryd y gynulleidfa targedol, sef plant 3-7 oed.

Er hyn, rhaid nodi nad oedd y perfformiad yn cyfyngu ei chynulleidfa am nad oedd yn rhy blentynnaidd. Felly, fel myfyrwraig deunaw oed, roeddwn yn medru uniaethu a gwerthfawrogi rhai agweddau na fyddai’n berthnasol i blentyn efallai.

Uwcholeuwyd y ffaith felly fod theatr yn brofiad addysgiadol a chreadigol, a rhaid canmol holl waith y cwmni wrth adlewyrchu hyn mewn modd safonol.

Reviewed by: Megan Mai Cynllo Lewis

back to the list of reviews

This review has been read 1948 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk