Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Letus , Eisteddfod 2003 - Meifod , August 6, 2003
Y ddrama Letus Drama wedi ei hysbrydoli gan hanesion am Lis Letus, ydi'r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni.

Dynes fu'n crwydro Maldwyn am flynyddoedd oedd Lis Letus, a down i wybod bob yn dipyn am ei charwriaeth anarferol yn ystod cwrs y ddrama, pan mae'n edrych yn ôl dros ei gorffennol.

Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn bennaf yn ystafell y meddyg mewn wyrcws, wrth i Lis, (Sara Harris-Davies) sydd bellach yn heneiddio, siarad gyda'r doctor (Meilyr Siôn) mae'n datgleu hanesion am ei gorffennol a'i phresennol.

Awn yn ôl ac ymlaen rhwng y gorffennol a'r presennol, a gwelwn olygfeydd o Letus yn cyfarfod ei chariad (Iwan Tudor.)

Cwmni Arad Goch sydd wedi cynhyrchu'r ddrama, ac yn ôl arfer y cwmni theatr sydd yn aml yn defnyddio llenyddiaeth a deunydd traddodiadol, mae yma elfennau o gerddoriaeth werin a chlasurol. Mae gan Letus obsesiwn gyda'r gerddoriaeth yn ei phen.

Mae Lis Letus yn gymeriad annwyl iawn, ac mae Sara Harries - Davies yn llwyddo i'w phortreadu yn real tu hwnt. Mae'n gymysgedd o'r dwys a'r digri - ac ambell i olygfa yn codi gwên, ac ambell i olygfa yn gwneud i ni chwerthin yn uchel. Mae rhywun yn tristau i raddau wrth ddod i adnabod Letus yn well, wrth ystyried ei chefndir, yn enwedig pan mae'n ymbil ar y doctor i'w helpu i derfynnu'r cwbl, a hithau wedi anobeithio byw.

Down ar draws pynciau sy'n berthnasol i bawb wrth i ni heneiddio yn y ddrama hon. Mae Letus yn edrych yn ôl ar ei bywyd carwriaethol anffodus. Mae'n ymwrthod â chonfensiynau cymdeithasol - mae wedi crwydro ar hyd y wlad, o ardal i ardal yn cysgu allan o dan yr elfennau.

Mae'n digalonni, ac yn anobeithio gydai bywyd, ac mae nifer o gwestiynau yn cael eu codi, o farwolaeth i gariad.

Mae'r actio yn y ddrama hon yn arbennig. Mae Sara Hughes-Davies drwyddi draw yn ymroi i'r cymeriad yn llwyr. Mae ei pherfformiad yn argyhoeddi drwy'r ddrama. Mae'r un yn wir am Meilir Siôn fel y meddyg, ac er mai rhan dipyn llai sydd gan Iwan Tudor, mae yntau hefyd yn perfformio yn dda.

Roeddwn yn meddwl ar ddechrau'r ddrama na fyddwn yn ei mwynhau gymaint â hynny. Roedd yn symud braidd yn araf, a doeddwn i ddim yn siwr a oeddwn yn mynd i ddeall y ddrama i gyd, ond newidiodd hynny, a phopeth yn dod at ei gilydd.

Mi fydd cwmni Arad Goch yn perfformio y ddrama gomisiwn bob nos tan nos Wener, yn Theatr Clera, Y Trallwng am 8 o'r gloch.

Reviewed by: Elin Wyn Davies , BBC On -line

back to the list of reviews

This review has been read 2957 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk