Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro , Arad Goch, Aberystwyth , February 24, 2015
Arad Goch by Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro “Oes rhaid i mi adael?” – dyma’r cwestiwn ar fy ngwefysau ar ôl cael fy hudoli yn ôl i fy mhlentyndod wrth gamu mewn i fyd cynhyrchiad diweddaraf Theatr Arad Goch, cynhyrchiad a oedd yn tanio’r dychymyg: Oes rhaid i mi ddeffro?

Roedd yr actorion yn gwneud i ymarfer llythrennedd, rhifedd a bwyta’n iach ymddangos fel gemau hwyl; gan floeddio’r llinell “get up and play”, mi wnaethant i mi gofio fy mrwdfrydedd fel plentyn i chwarae, a dysgu trwy chwarae – gwers gallwn ddysgu fel oedolyn hefyd efallai!

Roedd y gerddoriaeth yn gweddu’r stori i’r dim a’r defnydd o ddawns yn ddiddanol hefyd - gan gynnig symudiadau bach yn fwy heriol na’r clasur, ‘pen, ysgwyddau, coesau, traed’!

Reviewed by: Bethan Ruth

back to the list of reviews

This review has been read 1944 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk