Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Arad Goch

Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro , Arad Goch, Aberystwyth , February 24, 2015
Arad Goch by Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro Profiad synhwyrusol a swynol a gefais wrth weld perffromiad "Oes rhaid i mi ddefro" gan Cwmni Theatr Arad Goch ar y nawfed o Chwefror a ddeffrodd dychymyg fy mhlentyndod yn gelfydd dros ben.

Wrth i Mari Morgan ein harwain drwy'r naratif gyda chwarae crefftus ar y ffidl. Yn bendant cefais fy atynnu i fewn yn llwyr i'r perffromiad. Ar adegau teimlais y gallen ni wedi mynd ar y llwyfan ac ymuno gyda y ddau actor eginiol Ffion Wyn Bowen a Mark Roberts perfformiadau caboledig dros ben a barhaodd ar ddelwedd o blant ifanc drwy'r holl darn. Camp aruthrol yn ym marn i.


Er taw perffromaid wedi'i annelu at blant ifanc ydoedd ,yn ferch bedair ar bymtheg roeddwn wedi llwyr ymgolli yn hunan yn y freuddwyd ffantasiol lliwgar yma. Credaf taw coregraffi Eddie Lad oedd y rheswm pennaf a oedd yn rhoi strwythur i'r holl naratif mewn ffordd hollol wahanol i unrhyw berffromiad yr wyf wedi ei brofi o'r blaen.

Annogaf bawb i fynd i'w weld ermwyn cael hanner awr o bleser pur boed yn blentyn neu yn riant hyderaf ni fyddwch yn methu tynnu eich llygaid i ffwrdd o fwrlwm y stroi rhyfeddol yma.

Reviewed by: Meleri Mair Morgan

back to the list of reviews

This review has been read 1669 times

There are 21 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk