Arad Goch |
| Arad Goch- Oes Rhaid i mi Ddefro , Arad Goch, Aberystwyth , February 24, 2015 |
Rhyfedd o beth yw fy mod wedi mynd i weld cynhyrchiad diweddaraf Arad Goch ‘Oes Rhaid i mi Ddeffro?’ – ddwywaith os caf ychwanegu, ond pam yn union? Rwy’n 21ain, ond mae’r cynhyrchiad wedi ei anelu yn arbennig tuag at cynulleidfa 3-7 oed. Er hynny gallai’r cynhyrchiad ddeffro dychymyg person o unrhyw oedran os yr ydych yn barod i ymroi eich hunain yn llwyr i gynfasau breuddwydion plentyndod. Cawn ein tywys gan gymeriad addfwyn yr actores Mari Morgan i fyd ffantasïol a swreal i gasglu synau gwahanol, llawn clustogau cyfforddus a defnyddiau lliwgar- a hithau yn creu straeon gyda’r synau hynny gyda’i ffidil. Yn sydyn mae’r ddau gymeriad arall (Ffion Wyn Bowen a Mark Roberts) yn ymddangos o’r cynfasau gwynion a ceir chwarae rhwng cwsg ac effro, pleserau breuddwydion a bregusrwydd ac ofn eu hunllefau. Mae’r plant wir ar eu hennill gyda’r cynhrychiad yma ac yn eu gweddu i’r dim, gan fod y broses o lunio ychydig ddeialog y cynhyrchiad yn dod yn uniongyrchol o ddosbarthiadau derbyn a’r coreograffi dawns cyfoes dan gyfarwyddyd Eddie Ladd yn creu cryn dipyn o gomedi. Bron y medrwn glywed fôr o chwerthin a giglau’r plant wrth wylio’r ddau actor yn sianelu’r plentyn mewnol ynddynt. Mae’n biti nad oeddwn wedi cael y cyfle i fod yng nghwmni plant wrth wylio’r cynhrychiad a gweld eu hymateb, oherwydd creu mwynhad pur iddynt yw holl ddiben y sioe arbennig yma yn fy nhyb i. Buaswn yn annog unrhyw riant i fynd gyda’u plant i weld y cynhyrchiad yma. Cefais deimlad rhyfedd a chyfarwydd am y tri chwarter awr cyfan- roeddwn yn teimlo fel plentyn unwaith eto. |
Reviewed by: Mared Llywelyn |
This review has been read 1821 times There are 21 other reviews of productions with this title in our database:
|

Rhyfedd o beth yw fy mod wedi mynd i weld cynhyrchiad diweddaraf Arad Goch ‘Oes Rhaid i mi Ddeffro?’ – ddwywaith os caf ychwanegu, ond pam yn union? Rwy’n 21ain, ond mae’r cynhyrchiad wedi ei anelu yn arbennig tuag at cynulleidfa 3-7 oed. Er hynny gallai’r cynhyrchiad ddeffro dychymyg person o unrhyw oedran os yr ydych yn barod i ymroi eich hunain yn llwyr i gynfasau breuddwydion plentyndod. Cawn ein tywys gan gymeriad addfwyn yr actores Mari Morgan i fyd ffantasïol a swreal i gasglu synau gwahanol, llawn clustogau cyfforddus a defnyddiau lliwgar- a hithau yn creu straeon gyda’r synau hynny gyda’i ffidil. Yn sydyn mae’r ddau gymeriad arall (Ffion Wyn Bowen a Mark Roberts) yn ymddangos o’r cynfasau gwynion a ceir chwarae rhwng cwsg ac effro, pleserau breuddwydion a bregusrwydd ac ofn eu hunllefau.