Theatr Genedlaethol Cymru |
| Theatr Genedlaethol Cymru- Sundance , Eisteddfod Genedlaethol 2005 , August 14, 2005 |
| Heb os, Aled Jones Williams yw un o brif ddramodwyr Cymru. Yn fy marn i, fe yw prif ddramodydd y theatr Gymraeg. Mae’i ddramau yn gyson yn herio’i gynulledifa ac yn ymestyn gorwelion beth sy’n cael ei ddweud a’i wneud ar lwyfan Gymraeg. Sundance yw un o’i ddramau cynnar, ac ynddi fe ellir olrhain yr arddull a’r themau a gafodd ei grisialu yn ei ddramau diweddarach, megis TA RA Teresa a Lysh. Un o brif gryfderau dramau Aled Jones Williams, er gwaethaf yr holl drais ac iaith sydd yn aml yn hyll, yw bod yna gymaint o harddwch ynddynt, ac mae’r cyferbyniad enfawr rhwng y ddau yn pwysleisio’r ddau begwn; mae’r amhleserus yn cael ei wneud yn anioddefol ac mae’r harddwch yn ogoneddus. Fe geir teimlad mawr o ansefydlogrwydd yn ei ddramau, ac felly maent yn weithiau theatrig sydd angen ac yn mynnu sylw a chanolbwyntiad cynulleidfa. Oherwydd yr ansefydlogrwydd mae’n anodd gwybod yn union i ble bydd yr awdur yn ein tywys nesaf, sydd eto’n pwysleisio cyferbyniadau cryf y script. Er engraifft, y falerina fach dyner mae Sundance yn ei chlywed yn sgrechian ac mae hanes Mr Harkinson, y cymydog oedd yn hoffi sefyll yn ei ardd yn noethlymun, ar y cychwyn yn swnio’n hynod anghyfforddus gan bod rhywioldeb o hyd yn rywbeth peryglus yn nramau Aled Jones Williams, gan bod Sundance, ar y pryd, yn blentyn a’r cymydog yn oedolyn. Ond o’r sefyllfa anghyfforddus hon, fe ddaw deialog harddaf y script. Mae disgrifiad anhygoel o’r haul yn dawnsio ac yna’r linell syml “Sorry about your mum…” yn dileu’r pryderon cynt, ac mae’r effaith yn ddirdynnol. Nid yn unig yn strwythur y ddeialog y ceir yr ansefydlogrwydd, ond mae ansefydlogrywdd ei hun yn thema gryf yn y ddrama. Drwy gyfuno bywyd plentyn mewn cymdeithas Gymraeg a ffantasiau byd y gorllewin gwyllt, mae’r awdur yn llwyddo i gwestiynnu defnydd ac ystyr iaith. Nid oes byth un ystyr yn unig i unrhyw air; mae “cut” cyllell ar foch yn wahanol iawn i’r “Cut! medda Fred Zinnemann w’th Gary Cooper.” Oherwydd pryderon y ddrama ynglyn a’r angen am hunaniaeth, labeli ac identiti, mae perfformoio Sundance ar faes yr Esiteddfod yn eithaf pryfoclyd. Yng nghanol gwyl sy’n symbol ddiffiniol o’r Gymraeg a Chymreictod, yn enwedig a chymaint o ddadlau ynglyn ag Esiteddfod 2007, dyma drasiedi sy’n datgan nad oes yna fath beth a hunaniaeth. Fel yn nramau Beckett, mae Aled Jones Williams yn dangos, er f i ni geisio darganfod ein hunaieaeth drwy ein teluoedd, iaith, cymdeithas, celfyddyd, a hyd yn oed ein ffantasiau, y gwir ydi ein bod ni gyd ar ein pen ein hunain: “What’s your name boy?...Alias anything you please.” Roedd y cynhyrchiad yma wedi’i gynllunio’n berffaith. Roedd y set a’r goleuo nid yn unig yn cyflawni anghenion y script, ond roeddent hefyd yn cryfhau, yn plethu’n thematig ac yn ychwanegu at ddrama oedd eisioes yn hynod o bwerus. Roedd y cefnlen wen yn gweithio’n berffaith ar gyfer taflunio rhannau o’r ffilm ‘High Noon’; roedd y waliau’n gorchuddio tair ochor o’r llwyfan, gan amgau Sundance yn ei fyd bach ei hun a’i ffilmiau, ac roedd gwynebau rhan fwyaf o actorion y ffilm yn cael eu aflunio neu’n cael eu torri yn hanner gan bigau’r waliau. Roeddent yn cael eu hamddifadu o unrhyw hunaniaeth, gan danlinellu eto un o themau mwya’r ddrama, ac yn wir un o themau mwyaf gwaith Aled Jones Williams. Goleuwyd y llwyfan yn hynod effeithiol, yn enwedig gan ei fod hefyd yn cynrychioli stad feddyliol ein unig gymeriad. Wrth i atgof ddod i’w wyneb, er enghraifft wrth iddo feddwl am y ffrog briodas, roedd y golau’n tynnu ein sylw at y ffrog wen oedd ar y llwyfan a hynny yn yr eiliad ar ol i Sundance feddwl amdani ond cyn iddo adrodd y geiriau oedd yn cyfeirio ati. Roedd y tric yn un hynod o syml, ond roedd yr amseru’n fanwl i’r eiliad ac yn effeithiol. Mewn sawl cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol mae Owen Arwyn wedi dangos ei fod yn berfformiwr arbennig o dda, y cryfaf o actorion craidd y cwmni, ond wrth chwarae rhan Sundance mae wedi rhagoriaethu. Fel yr oedd hi'n amlwg yn y detholiadau byr a gyflwynodd yr actorion craidd yn Sgidie Bach i Ddawnsio yn y Pafiliwn nos Iau, mae Owen Arwyn yn actor sy'n byw cymeriad, mae pob ystum, symudiad a llinell o ddeialog yn estyniad o'r cymeriad a'r cymeriad yn unig, mae'r actor yn diflannu i'r cefndir. Roedd yma berfformiad awdurdodol a meistrolgar, ac yn sicr yn un o berfformiadau gorau'r wythnos. Roedd y cyfarwyddo gan Cefin Roberts yn gywrain ac eglur, gan sicrhau nad oedd sgript sydd a'r potensial i fod yn aneglur mewn dwylo llai diogel (neu sicr), byth yn drysu'r gynulleidfa. Er fod y cynhyrchiad o safon arbennig o uchel, ac er fy mod yn credo fod y ddrama yn un fentrus a dadleuol i'w llwyfanu yn yr Eisteddfod Genedkaethol, allai ddim peidio meddwl fod y Theatr Genedlaethol wedi colli cyfle yma. Tybed na fyddai'r Eisteddfod wedi bod yn le delfrydol i'r cwmni fod wedi perfformio drama gan ddramodydd newydd ifanc a di-brofiad heb i'r cynhyrchiad orfod wynebu helbulon beirniadol nac economaidd sydd ar gynhyrchiadau sydd yn mynd ar daith ganddynt. Efallai eu bod yn parhau i geisio sefydlu y cwmni a denu cynulleidfa ac nad ydynt eto yn teimlo yn ddigon hyderus i roi cyfle i ddramodwyr newydd, ond fe hoffwn eu gweld yn rhoi mwy o sylw i'r hyn yn y dyfodol. O gofio eu cynhyrchiad gwych o Ty ar y Tywod yn ddiweddar a'u cynnhyrchiad campus o Sundance yn yr Eisteddfod rwy'n gobeithio y byddant yn ddigon hyderus i fentro i'r maes yma yn y fuan. |
Reviewed by: Gareth Evans |
This review has been read 2667 times There are 49 other reviews of productions with this title in our database:
|
