Theatr Genedlaethol Cymru |
| Theatr Genedlaethol Cymru- Plas Drycin , Aberystwyth , February 28, 2005 |
| Gyda phlâs yn wag yng nghanol storm, cyrhaeddir sawl cymeriad annisgwyl - terfysgwr Cymraeg, gwerthwr tai yn dangos pobl o gwmpas, y perchennog a’i chariad, Athro Celtaidd o Loegr a chantores hudol. Digon o fwyd i’r lobscows ond beth am y blâs? Ochenaid fewnol, dyna f’ymateb cyntaf wrth dreilio’n llygaid dros y set cyfoethog. Gyda che’z lounge yn dominyddu dros y ganolfan, hen gloc taid i’r dde a stand hetiau ar y chwith. Sawl cliché ma’r Theatr Genedlaethol eisiau cynnig i mi dros eu cyfnod byr mewn bodolaeth? Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau yma? Ma Noel Coward, a’i steil wedi hen ddiflannu heb son am Ibsen a’i griw - fedrith rhywun basio mlaen y neges yma os gwelwch yn dda. Ond mi oedd y set yn fanwl a thrylwgar iawn ond sawl awr sydd angen i’w osod ar y llwyfan? Cost aruthrol tybiwn i, a fydd wedi bod fwy o lês yn mynd tuag at wythnos arall o ymarfer a gwaith ar y sgript. Fel dywedodd hen ffrind i mi, ‘y trafferth efo Cymru yw bod Duw wedi gwario gormod ar y set ac wedi mynd yn brin wrth dalu am yr actorion.’ Gan wybod am dalent cyfoethog Gwyneth Glyn am sgwennu, siomedig oedd y ddrama hon gan annelu am sawl peth heb gyrraedd nunlle. Gan feddiannu ar strwythur Shakespearaidd a seilio sawl cymeriad ar rhai stoc or genre yma (the jester, the reluctant hero, the nurse, the silent hidden watcher), mi oedd y ddrama yn cyfyngu ei hun o’r cychwyn. Yn enwedig gan fod yr holl chwarae yn digwydd o fewn yr un gofod sef tu fewn i d_ mawr crand. Er mwyn galluogi safle ar gyfer cymeriadau stoc mewn theatr mae’n rhaid rhoi cyfle at daith llythrennol i’r naratif, a’r gallu i newid golygfeydd fel bod modd i addasu’r cymeriadau. Medrir felly gweld y perthnasau yn newid odan amgylchedd gwahanol, ac felly datblygir y naratif yn organic yn hytrach na gorfod ‘fforsio’ pethau yn amlwg i’w lle. Roed sawl enghraifft o hyn, megis Tristan yn symud cadair yn hollol anaelladwy o flaen drws y twll dan grisiau fel bod Iorwerth yn sdyc tu fewn. Yn amlwg mae angen dychymyg a dyfeisgarwch i gynnig y fath lwyfan a falle fod hyn tu hwnt i allu y Theatr Genedlaethol. Teimlaf fod y set yn rhy static i’r drama, gyda’r hen elyn, the secret passage, yn dangos ei gwyneb unwaith eto fel yr unig fath o lwybr anghyffredin oddi ar y drodfa ddisgwyliedig. Roedd gormod o gymeriadau comic yn y ddrama hon yn brwydro am yr un gynulleidfa, er i’r ddrama berthyn odan ymbarel y genre ffars ble mae sawl cymeriad comic yn briodol. Er hynny wrth gwrs, nid cweit ffars yn nelwedd Alan Ayckbourn neu Michael Frain hynny yw, ond mi oedd ganddynt hwythau cwmniau cynyrchu slic y tu ôl iddynt oedd yn hybu’r ddelwedd ffars tuag at y cyfeiriad cywir. Mi oeddwn i’n diflasu ar y golygfeydd ‘ysgafn’ ac yn y diwedd, gobeithio oeddwn i am ‘serious relief’ i gael torri ar y slapstick amlwg di-ben-draw. Mae arna’i ofn dweud i mi weld Ifan Gruffudd yn ddigrifach na hyn. Siom fawr, yn enwedig wrth weld darnau rhyfeddol dda yn y sgript, megis pan i’r ferch Opheliaidd, Nesta (Rhian Blythe), flasu llwch o wrn ei thaid gan fymblo yn euraidd, “mor felus” (odan hypnotherapi ei chariad milain wrth gwrs). Y broblem fwyaf oedd y mod i’n llwyr methu daeall beth oedd canolbwynt y ddrama yma, er taw “joli i’r teulu” oedd hi fod, rhaid cael rhwy fath o strwythur dilyniant. Yn amlwg gyda’r awdur yn dod o berfeddion Penllun mae prynu a chwalu tai wedi bod yn rhan pwysig o’i bywyd. Ond, er bod ymosodiad moralistic ar werthwyr tai capitalistaidd doedd dim datrysiad i’r pwynt canolog yma. Ar ben y cysyniad yma (sy’n amlwg wrth galon yr awdur) gwelais sawl agwedd arall oedd yn sicr odan ei chroen, academyddion ffug-Geltaidd yngh_d a Chymry ffug acennol, hen offerynnau salw a cysyniadau ‘new-age’. Ond a oes lle mewn drama i unigolyn grafu sawl ysfa sy’n heb ddilysiant? Rhywbeth sy’n cropian yn ‘ara bach fewn i theatr Cymreig yw’r ddrama hunan-fewnol gyda sawl aelod blaengar yn euog ohono y dyddiau yma. Cynnigiant ydy theatr, nid teddy-bêr personol. Er mor ddiddorol, efallai, ydy bywydau gwahanol bobl, dydw i ddim wir eisiau gwybod pob hynt a helynt na pha bynnag brostest sydd gan pa bynnag awdur wrth gynnig ei hunain i’r ddrama. Wrth gwrs, sgwennu o brofiad y mae Ms Glyn wrth ymgnawdoli’r cymeriadau y mae hi’n protestio yn erbyn ond efallai fod angen dipyn fwy o waith ar gysyniadau’r cymeriadau er mwyn gwneud yn siwr fod lle cywir iddynt yn y perfformiad. Er hynny, mae’r testun yn ei hun yn un dilys, ond y gweithrediad sy’n wael ofnadwy. Ar nodyn sur, glywes erioed gymaint o hen ferched yn brefu chwerthin yn y gynulleidfa ers bod yn festri capel a rhyw wr yn gwisgo fel dynes. Rhywbeth y dyliwn i fod yn falch ohono mewn theatr llawn, ond yn hytrach penbleth teimlais, wrth i berfeddion slapstic Cymraeg fynd yn is ac yn is. Yr eironi wrth gwrs yw bod y fath theatr mae’r cwmni yma yn ceisio osgoi (sydd yn glir yn eu gorchwyl) yn cael ei gynnig fan hyn mor glîr a golau dydd. Nid theatr cenedlaethol ond theatr gwladol sydd fan hyn, sydd tan heddiw wedi ei berfformio ac yn perthyn yn y pentrefi, ond yn cael ei gynhyrchu ar gyllideb llawer mwy. Oeddwn i odan yr argraff taw nodwedd theatr genaletho oedd safon, nid maint y gyllideb. A pham bod ein comedi yn annelu am y lowest common denominator yn ein theatrau? Pam fod pobl yn chwerthin ar y geriau “cloc mawr”? Pam fod y geiriau yna yn y sgript yn y lle cyntaf? Nonsens pur sy’ ond gan y llafnyn lleiaf yn perthyn i steddfod ffermwyr ifanc (no offence). Roedd Rhian Blythe yn brydferth fel arfer yn ei gwisg pur sanctaidd (gwylio fydd rhaid rhag ‘the dreaded type-cas’), ond yn sicr mae angen gwaith taflu llais arni, pitw briadd oedd ei chymeriad realistaidd ymysg y ffars yn sgîl hyn, yn enwedig gan fod angen mwy arni, i fod yn ffwlcrwm i’r cyfanwaith, ac yn ganolbwynt i weithrediad y cymeriadau eraill. Siomedig eto gan mi wn fod talent aruthrol gan Ms Blythe. Efallai fod angen newid cwmni arni er mwyn gweithio dan arweinwyr gwahanol a gwaith newydd. Mi oedd y stori gariad rhwng Nesta a Iorwerth yn hollol ddi-angen. Gyda Iorwerth (Owen Arwyn) yn chwarae’r ff_l/jester wrth geisio ffrwydro taflegryn yn y Plâs, gyda methiant llwyr y cymeriad i fedru gwneud dim yn iawn, hyd yn oed rhoi lle ar dân. Beth felly oedd yr atyniad ato gan Nesta? Ond am hynny, dyna oll wnaeth y cymeriad yma, techneg theatraidd er mwyn cychwyn gweithrediad yn hytrach na chig a gwaed. Ffaeledd i sawl gymeriad. Er hynny mi oedd Arwyn yn gwneud tro da yn y rôl yma, er fod ei ynganiad yn mynd ar goll weithiau, rhywbeth oedd yn dryw i bob un o’r cast bron. Mae’n rhaid gwneud yn siwr bod y gynulleidfa yn daeall pod sillaf o pob air, rhywbeth oedd ar goll yn arw yn y perfformiad yma ac yn rhwybeth sy’n peri cryn bryder i mi, yn enwedig gan ystyried taw Theatr ‘Genedlaethol’ oeddent yn cynrychioli. Rhywbeth mae’n rhaid i cyfarwyddwr fod yn ymwybodol ohono. Mi oedd ynganiad Wynfford Ellis Owen fel Athro Celtaidd sydd wedi dysgu Cymraeg yn hollol annerbyniol. Mi wnes i fethu tua tri-chwarter o’i ddeialog, er fod ei gymeriad yn gofyn iddo creu’r acen hyll yma, ei gyfrifoldeb cyntaf yw eglurwch, oedd yn llwyr ar goll. Mi ddyliff wybod yn well. Mi ddyliff Theatr Genedlaethol wybod yn well hefyd cyn taflu’r fath ddelwedd ohono yn ei byjamas arnaf. Diolch yn fawr. Roedd perthynas Dygddu (Sue Roderick) a Gwerthwr Tai (Morgan Nefydd) yn ddigon dderbyniol fel comic relief, a’i perfformiadau yn safonol i’r peth oedd yn ofynnol, ond yn anffodus, treiliodd y ‘relief’ yma dros hanner y perfformiad. Ac er mwyn cael comedi mae’n rhaid cael cyfartaledd, rhywbeth i weithio gyferbyn y comedi i’w godi at lefel uwch. Enghraifft perffaith oedd cymeriad Gennerys (y cantores sy’n cyrraedd o nunlle) yn chwarae’r crwth oedd yn ei hunan yn eithaf doniol (gan i’r offeryn fod yn un hollol chwerthynllid), ond fe aeth y darn ymlaen yn rhy hir, gyda dim cystadleuaeth dramatig iddo er mwyn cynnig lefelau gwahanol i’r comedi ond am y s_n gwirion, ac felly eto, yn lladd ar ei hun. Mi oedd y darnau theatrig Plas Drycin yn brin iawn sy’n siomedig dros ben oherwydd dyma’r darnau oedd yn sefyll allan, ac yn cyfiawnhau y rheswm i ofyn i Ms Glyn sgwennu’r peth gan ei fod yn rhoi llygedyn o obaith o’i gallu. Ymysg y comedi sal iawn mi oedd amseru cywrain mewn rhannau ac ochr tywyll yn cropian fewn i’r sgwennu hefyd yn ddiddorol. Yn enwedig saliwt Natsiaidd gan gymeriad academaidd Wynfford Ellis wrth gyfeirio at gymeriad Cymraeg pwysig (Prins Tsarls)! Diddorol iawn, dyma’r themau y byswn i’n hoffi gweld Ms Glyn yn sgwennu amdano. Dim taflu pynciau llosg dilys i ffwrdd ar gomedi ysgafn drwyddi draw, mae ffordd o ddelio gyda comedi ysgafn sy’n cynnig lefelau ychwanegol ar ddrama, fel sydd yn ei darn yn Drws Arall y Coed, beth yn union sydd wedi digwydd fan hyn ‘dwi ddim yn siwr. Wrth gwrs, does dim rhaid i bob darn theatrig fod yn hollol ‘serious’ ond mae angen cyfartaledd, gyda agweddau gwahanol oll yn chwarae oddi ar ei gilydd, sydd yn gweud darn o theatr cyflawn. Mae person hefyd yn medru daeall bod meithrin talent ar agenda y Theatr Genedlaethol. Digon teg, ond ai dyma’r lle cywir i daflu dramodydd weddol ddi-brofiad. Mae’n siwr fod cyfleuon gwell i wneud hyn i ennyd hyder person ym myd sgwennu‘r theatr, ond efallai ddim, gan fod pob ceiniog sbâr y cwmni yn mynd ar y cynhyrchiadau hael hyn heb adael lle i theatr wir genedlaethol Gymreig, sef yn y pentrefi ac ar feysydd perfformio oll-gynhwysiedig. Dyma ble mae dramodydd newydd yn torri dannedd. Pan mae’r set yn perthyn mor drylwyr i’r drama tybiaf fi fod rhywbeth o’i le, pan na all gwmni genedlaethol ail-greu perfformiad heb fod mewn theatr penodedig a modern, ac ond lond llaw ohonynt yng Nghymru. Meidrol neu anfeidrol dyna yw’r cwestiwn, os taw dyma cynnig Cwmni Theatr ‘Genedlaethol’, mae’r ateb yn un clir. |
Reviewed by: Dafydd Prys |
This review has been read 2563 times There are 49 other reviews of productions with this title in our database:
|
