Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Perfformiadau cadarn

Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Genedlaethol Cymru-Diweddgan , ar daith , October 23, 2006
Theatr Genedlaethol Cymru by Theatr Genedlaethol Cymru-Diweddgan Mae’n rhaid i mi gyfadde mai’r peth ola o’n i isio’i wneud ar ôl diwrnod cythryblus a deimlai fel petai’n ddiderfyn, oedd eistedd drwy ddwyawr a rhagor o Beckett. Mi gefais brofiad diflas ychydig flynyddoedd yn ôl pan eisteddais drwy gynhyrchiad gwael tu hwnt o Diwéddgan yn y Saesneg, a doedd y syniad o suddo i gorsydd gwacter ystyr ar noson wlyb o Hydref a minna heb gael swper, ddim yn apelio rywsut.

Wedi’r cyfan, dyna mae pobl yn ddeud am waith Samuel Beckett – ei fod o’n astrus, yn drwm ac yn ddiflas. Yn wir, does ’na ddim llawer o brofiadau mwy erchyll na Beckett ar ei waetha. Ond ar y llaw arall, does ’na fawr ddim sy’n fwy gwefreiddiol na Beckett ar ei orau. Roeddwn i’n croesi fy mysedd mai i’r ail garfan y byddai cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn perthyn.

Y broblem oesol o fodoli yn wyneb diddymdra a diffyg pwrpas yw craidd syniadaeth Diwéddgan, ond ymhlyg yn y rhwystredigaeth a’r dioddefaint mae elfen gref o hiwmor macabre a’r syniad fod sefyllfa anobeithiol y ddynol ryw yn fater rhy ddifrifol i fod yn hollol sobr yn ei gylch! Llwyddodd y cast – o dan gyfarwyddyd meistrolgar Judith Roberts – i wneud i mi chwerthin droeon, i gydymdeimlo â’r cymeriadau ac uniaethu â hwy yn eu stad druenus, hirymarhous. I mi, yr hiwmor tywyll hwn yw’r allwedd ar gyfer mwynhau – a llwyr ddeall campweithiau Beckett. Do, fe’m siomwyd ar yr ochr orau.

Cafwyd perfformiad cadarn a gwirioneddol wych gan Arwel Gruffydd fel yr Hamm sardonig – cymeriad dall, sydd hefyd yn methu â sefyll ac yn gaeth i’w gadair freichiau am byth. Ar y llaw arall, fedr Clov, a bortreadir gan Owen Arwyn, ddim eistedd oherwydd poenau tragywydd yn ei goesau. Mae o wastad yn bygwth gadael Hamm – ond dydi o byth yn gwneud. Wedi’r cwbwl, ydyn ni’n bod os nad oes neb arall yn ein gweld ni, yn ymateb ac yn siarad efo ni? Potreadwyd yr ymgiprys rhyngddynt yn dra effeithiol gan y ddau actor – bron eu bod fel pâr priod, yn ffraeo a phwdu am yn ail ac yn gaeth mewn sefyllfa ailadroddus, amhosib. Mae hi’n stalemate i Hamm a Clov ers tro byd ac felly y bydd hi bellach, hyd ebargofiant. Ar y llaw arall, mae Nel, sy’n colli ei chlyw a Nagg, sy’n colli ei olwg (Lisabeth Miles a Trefor Selway) yn byw mewn biniau sbwriel, wedi eu claddu at eu ceseiliau mewn tywod. Mae ’na anwyldeb yn perthyn i’r ddau yma, er gwaetha eu sefyllfa abswrd.

Llwyddodd cynildeb hyfryd y set, y goleuo a’r gerddoriaeth i gyfleu’r teimlad o unigedd, fel petai’r stafell hon – byd cyfan y cymeriadau – ynghrog yn yr ehangder mawr o’u cwmpas.

Does ’na ddim dechrau, canol na diwedd i ddramâu Beckett. Dydi’r cymeriadau ddim yn newid, dydyn nhw ddim yn datblygu – dydyn nhw ddim hyd yn oed yn dod i ddeall mwy am eu sefyllfa bathetig. Wedi’r cwbwl, creu rhyw fath o wrth-theatr fel adwaith yn erbyn realaeth seicolegol dramâu’r cyfnod a wnaeth y dramodydd. Mae ’na beryg i hyn ddieithrio rhai ohonom – gan fod awydd ynom i gyd i weld datblygiad, i gredu fod pwrpas i bethau – i gredu mewn byw. Serch hynny, byddwn i’n annog pawb i fynd i weld y cynhyrchiad yma o Diwéddgan oherwydd ei fod wedi llwyddo i ddyrchafu profiadau’r ddynol ryw (fel y dylai unrhyw ddrama werth ei halen) ac am iddo wneud i mi chwerthin am y tro cyntaf ers blynyddoedd yn y theatr Gymraeg. Ond yn anad dim, am ei fod wedi atgoffa un person bach crintachlyd, ar ddiwedd diwrnod hir, i beidio â chymryd bywyd ormod o ddifri.

Reviewed by: Angharad Elen

back to the list of reviews

This review has been read 2291 times

There are 46 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk