Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Genedlaethol Cymru- Hen Rebel , Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth , October 23, 2005
Fe wyddwn bellach, fod ein Theatr Genedlaethol wedi derbyn adroddiadau cymysg hyd yn hyn - a hynny ar ddweud y lleiaf. Serch hynny, gwyddwn mai hawdd yw bod yn feirniadol; felly mi es i, ar nos Iau, Hydref 20fed, i theatr orlawn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, i ddisgwyl, a gobeithio gyda gweddill y gynulleidfa am brofiad werth ei chanmol y tro hyn.
Drama gerdd yw Hen Rebel, sydd yn ein tywys yn ôl dros gan mlynedd bellach, i dystio ‘Diwygiad Evan Roberts’; a’i symudiad crefyddol a fuodd yn gyfrifol am ysbrydoli nifer yma yng Nghymru fach.

Wedi cymryd ein seddi, ni fuom yn aros yn hir, cyn i ganu swynol y côr rhoi’r arwydd ei fod yn amser i’r sioe gychwyn. Roedd cyfuniad y canu prydferth yma, yn ogystal â gwisgoedd a set drawiadol Martin Morley yn rhoi argraff addawol - ond a fyddai gweddill y sioe yn plesio yn yr un modd, tybed?? Roeddwn a’r fin darganfod yr ateb...

Yn ystod yr olygfa gyntaf, cawn gyfarfod y dyn ei hun; Evan Roberts, (David Lyndon), a gweld ymateb ei ffrindiau a’i deulu wrth iddo gyhoeddi ei gariad at Crist, a chyfaddef ei fwriad; sef i fynychu’r ysgol baratoi a’r coleg diwinyddol er mwyn dilyn ei freuddwyd - a throi’n bregethwr. Gwelsom yn glir y pleser mawr a rhoddodd hyn i nifer helaeth o’i ffrindiau yng Nghasllwchwr - diolch i ychydig o or-actio gan rhai aelodau o’r cast. Gan neidio o gwmpas yn ddannedd i gyd, roeddynt yn f’atgoffa am y fath o actio a welais i yn ystod sioe gerdd ysgol uwchradd ychydig yn ôl. Mi glywais i un aelod o’r gynulleidfa yn arsylwi ar hyn... “Tits and teeth” oedd y disgrifiad a rhoddodd hi...

Ta beth. Yn ystod yr olygfa nesaf cefais anghofio am y nam yma’n llwyr, wrth gyfarfod cymeriad Stokes, (Maldwyn John) yn nhafarndy’r ‘Ship and Bottle’. Newyddiadurwr haerllug, ac ystyfnig braidd yw Stokes; a pe bawn yn fenthyg y term Saesneg, byddai ‘Cheeky Chappy’ yn ddisgrifiad perffaith. Ni ellir helpu cynhesu at Stokes, ond teimlaf fod hynny’n ddiolch i safon actio Maldwyn John yn hytrach na dim arall. Gwyddais y foment gyntaf iddo gerdded ar y llwyfan, ac agor ei geg i adrodd ei linell gyntaf mai dyma gymeriad roeddwn i’n credu ynddo, ac oedd yn f’argyhoeddi. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid nodi mor braf oedd tystio’r perthynas rhwng Stokes a’r bar-ferch Bertha, (Carys Eleri). Eto, dyma gymeriad roeddwn i’n credu ynddi, a phleser oedd gweld sut oedd y ddau yn llwyddo i chwarae oddi ar ei gilydd, gan gadw’r awyrgylch yn ysgafn ac yn chwareus.

Yn anffodus, piti wedyn oedd tystio ymdrech rhai aelodau eraill o’r cast, wrth iddynt bortreadu cymeriadau, a methu’n llwyr ar f’argyhoeddi yn yr un modd.

Roedd nifer helaeth o’r cast gydag acenion gogleddol yn naturiol, ac roedd gormod ohonynt yn ymgeisio i roi acen ddeheuol ymlaen - heb lwyddo i’w gario drwy’r perfformiad cyfan. Mae un enghraifft o hyn yn enwedig, sydd wedi aros gyda mi - a nifer o bobl eraill hefyd - os yw beth glywais i yn y cyntedd yn ystod yr egwyl yn cyfri o gwbl...

Ceir olygfa yn y Capel, ymhle y gweler Evan Roberts ar ei liniau wrth i’r Ysbryd Glân ddod ato. Dim ond nes darllen y rhaglen ydw i wedi darganfod yn iawn beth oedd David Lyndon yn gweiddi yn ystod yr olygfa yna...
Ar y cyfnod, nid oeddwn yn sicr os mai ‘Nid fi’, ynteu ‘Pig fi’ oedd o’n gweiddi i’r Arglwydd uwchben... Pa fodd bynnag, ar ôl astudio’r rhaglen, diolch i D Densil Morgan, sylweddolaf mai’r tebygrwydd yw mai gweiddi ‘Pl?g ni’ oedd Lyndon wedi’r cyfan. Ar ben hyn i gyd, roedd yr ystum ar ei wyneb yr un mor argyhoeddiadol ag oedd ei lefaru’n glir. Methu helpu gwingo oeddwn i ar ôl gweld hyn, a chlywed y fenyw oedd yn eistedd wrth f’ymyl yn chwerthin yn slei i’w hun...

Serch hynny, nid David Lyndon oedd yr unig un yn euog o fy nghael i’n ymgreinio yn fy sedd ambell waith. Ystyrir er enghraifft cymeriad Howell (Dave Taylor), a Mr Jenkins (Llion Williams), neu Elin (Angharad Lee), dyweder. Bachgen ifanc digrefydd yw’r cyntaf, sydd yn erbyn y cysyniad o gael ei gyffwrdd gan y diwygiad - neu unrhyw beth arall crefyddol. Yn gyferbyniad i hyn ceir Mr Jenkins ac Elin - dau gymeriad sydd yn amlwg wedi eu hysbrydoli’n llwyr gan waith Evan Roberts.

Mae cael cymeriadau sy’n gwrthgyferbynnu ei gilydd yn hanfodol mewn unrhyw stori neu ddrama, ond y broblem yw bod y gwahaniaeth yn eu moesau wedi ei bwysleisio hyd nes gwneud y cyfan yn rhy amlwg yma: yn ‘bantomeimaidd’ braidd - yn enwedig ymhle yr oedd Taylor yn y cwestiwn – ‘y dyn drwg yn gwrthryfela yn erbyn y bobl dda’...

Ac eto, ymgeisiodd yr ail hanner rhoi ongl newydd ar bethau. Cafwyd golygfa ddigri dros ben ymhle yr oedd Dafydd Huw James wedi ei wisgo mewn ffrog ferchetaidd a gwallt ffug, fel Cyfeilydd Piano i Owen Arwyn, yr Hypnotydd; wrth iddynt ganu ar lwyfan yn ‘Lerpwl’; a’u cân yn artaith i Evan Roberts wrth iddo ddechrau amau ei hun, yn ogystal â’r neges roedd o’n lledaenu ardraws y wlad. Fel perthynas Stokes a Bertha a soniais amdano ynghynt, gwerthfawr oedd y perfformiad gan yr Hypnotydd a’i Gyfeilydd, am iddo gynnig profiad ysgafnach yn ystod dwyster holl emynau’r côr, amheuon Evan Roberts a’i feirniadwyr, ac ymgyrch ei ddilynwyr i aros yn ffyddlon i neges eu crefydd.

I mi, isafbwynt y sioe oedd yr olygfa ddiwethaf, ymhle symudwyd y stori i mewn i’n cyfnod cyfoes, a gwelwyd pedwar bachgen ar noson allan cyn i un ohonynt briodi. Maent yn chwifio eu poteli cwrw o gwmpas yn feddw cyn i un esbonio pam ei fod am briodi mewn Capel, ac yna dorri mewn i gân yr ‘Hen Rebel’. Yn syml, y cyfan sydd gen i i ddweud am hyn yw ‘amatur’, a ‘diangen’.

Ar y cyfan, teimlaf fod yna ambell i actor/actores oedd yn gyfrifol am gario’r sioe ar ben eu hunain - ac nid actorion craidd y cwmni oedd y rheini o reidrwydd. Tra bod rhai mannau da iawn yn y sioe; yn dangos addewid a gobaith, roedd mannau eraill nad oeddynt yn cyrraedd y safon y byddwn i wedi disgwyl ei weld gan ein Theatr Genedlaethol o bell ffordd. Soniais yn gynharach mor hawdd yw beirniadu rhywbeth - ond ni ellir clodfori rhywbeth os nad oes rhywbeth yna werth ei ganmol i gychwyn.

Er gwaethaf hynny, hoffaf gymryd y rhannau addawol o’r sioe, a’u cadw mewn bocs yng nghefn fy meddwl. Fy ngobaith wedyn fydd ei dynnu nhw allan wrth wylio sioe nesaf y Theatr Gen: a gweld uchafbwyntiau’r Hen Rebel fel man cychwyn ar gyfer safon waith y cwmni yn y dyfodol.

Reviewed by: Nicky John

back to the list of reviews

This review has been read 1966 times

There are 46 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk