Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Theatr Genedlaethol Cymru

Romeo a Juliet- Theatr Genedlaethol Cymru , Ar daith , October 22, 2004
Mae Cefin Roberts gyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol yn sôn yn y rhaglen ar gyfer ei gynhyrchiad am yr her o gynhyrchu Shakespeare yn y Gymraeg. Mae e hefyd yn gofyn pam ydyn ni’n osgoi y campweithiau clasurol yma. “Ai parchedig ofn sy’n llechu y tu ôl I’r mudandod?”. Yr ateb syml yw bod cyfarwyddo a chynhyrchu Shakespeare yn dda yn anodd ac yn sialens arbennig sydd ambell waith tu hwnt I’n gafael. Mae dramâu Shakespeare oherwydd ei bod e’n pencampwr yn y maes drama yn medru ‘gweithio’ hyd yn oed yn y cynhyrchiadau salaf. Y gamp yw rhoi cynhyrchiad o safon sy’n cyfrannu rhywbeth I’n traddodiad theatrig ni ac I’r gynulleidfa, sydd wrth gwrs yn medru gweld cynhyrchiadau di ri yn y gwreiddiol. Does dim ond rhaid fynd I Stratfordf I weld Mathew Rhys mewn cynhyrchiad gan Peter Gill (dau Gymro) neu hyd yn oed renti dvd o gynhyrchiad Baz Luhrman gyda Leonardo de Caprio a Clare Danes. (Hon gyda llaw yw un o’r cynhyrchiadau gorau o’r gwaith rwyf I wedi gweld erioed. Treiddgar, deallus a darlleniad difyr o’r testun.)

Dywed Cefin hefyd mae un rheswm arall I berfformio Shakespeare yw oherwydd y farddoniaeth sydd I gael yn y cyfieithiadau megis hon o Romeo a Juliet gan JT Jones. Buaswn I’n anghytuno yma. Mae adleision y gwreiddiol mor glir yn ein clustiau I peri rwystredigaeth tuag at gwerthfawrogi yr hyn mae’r cyfieithwyr wedi gwneud, ac os am arbrawf mewn trin barddoniaeth drama well does unlle gwell I ddechrau na gyda Saunders Lewis un ai Blodeuwedd neu Siwan. Hefyd yno mae’r her y ddrama fydryddol yn gliriach. Mae Saunders Lewis yn herio ni I wneud I’r farddoniaeth cael ei ddefnyddio fel sgwrs, fel ymgom. Aruchel wrth gwrs ond fel ieithwedd naturiol a phriodol y cymeriadau.

Mae Romeo a Juliet yn ddrama gynnar, yn ddrama anghyson, yn anesmwyth ei rhediad ac ar adegau yn arwynebol o rhan cymeriadu (yn ein termau ni). Y mae Shakespeare yn y ddrama yn symud o farddoniaeth aruchel a soffistigedig I’r masweddus. Chwarae ar eiriau sy’dd bron yn amhosib I’w gyfieithu. O ran themâu y mae Shakespeare a’I ffynonellau yn son am golli gwyryfdod a phrofiadau cyntaf rhyw gymaint ag yw am gasineb. Mae e gymaint am yr hen oes a’r hen chwedlau mytholegol Rhufeinig ag yw am arwyddocâd a phwysigwrydd blodau a llysiau. Mae e gymaint am awdurdod gwleidyddol ag ysbrydol ag yw e am drasiedi dau unigolyn yn nwylo ffawd.

O rhan steil ac arddull ddramatig wele Shakespeare yn defnyddio nifer o arddulliau eclectig o’r traddodiad ‘ramant’ canol oesol I ddychan ohoni ( cymherir golygfa Romeo a Juliet yn sôn am ddwylo fel cregyn y pererinion ac araith ‘Queen Mab’ gan Mercutio). Y mae Shakespeare hefyd yn defnyddio’s traddodiad commedia dell arte nid mewn ffordd lythrennol ( gweler pantomeim y gwenwyno er enghraifft neu olygfa’r Nyrs yn y sgwâr gyda Peter a Mercutio) . Yn unol a thraddodiad chwarae’r cyfnod mae yna ymladd cleddyf. Dyma un o’r pethau ‘spectaciwlar’ oedd wrth fodd y gynulleidfa yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae hyn oll yn gymysgedd tocsig ac mae’n rhaid I’r cyfarwyddwr bod yn ofalus nad yw yn gadael I phopeth disgyn I faes atyniadol y comedi a’r pantomeim gyda’I geiriau drwg a digfyr I wneud I’r gynulleidfa chwerthin. Rhaid iddo osgoi’r gor actio ystumiol sy’n perthyn I’r Panto a llywio cwys penderfynol clir ac o ddewis fwriadol. Niod oes modd gadael I’r ddrama cynhyrchu ei hunan.

Cyfrifoldeb y cyfarwyddwr wrth gwrs ydy holl gyfeiriad y cynhyrchiad ac wrth gwrs safon y cynhyrchu, set goleuo, sain ac yn bennaf yr actio. Mae hi’n sialens ac nid ar chwarae bach mae bwrw ati I gynhyrchu Shakespeare, ac yn enwedig drama mor adnabyddus â Romeo a Juliet ac un sy’n rhwydd ‘i gymharu â chynhyrchiadau eraill. Mae’n rhaid bod yna reswm I’w lwyfannu. Rhaid efallai cael cysyniad newydd I dehongli’r ddrama. Engreifftiau ssyml a simplistig yw rhain ond mae’n gwneud y pwynt – dau deulu gwyn a du eu croen. Teulu Palestinaidd a theulu Iddewig ayb.

Rhaid hefyd bod yna ddarlleniad clir tu hwnt I’r geiriau – y dramatwrgi. Efallai fod yna pâr o actorion ifanc anhygoel ar gyfer y rhannau canolig.Ond rhaid wrth syniad. Yn anffodus methes I weld beth oedd y prif reswm I lwyfannu Romeo a Juliet gan y Theatr Genedlaethol a doedd y cynhyrchiad ddim yn cynnig rhywbeth ffres na newydd I mi fel aelod o’r gynulleidfa. Hefyd roeddwn I’n disgwyl rhywbeth o safon theatr genedlaethol ac yn anffodus mi weles I gynhyrchiad oedd yn fwy addas I goleg ac ysgol neu I fod yn garedig yr hen ‘weekly rep’ nag I Theatr Genedlaethol. Ac roedd holl werthoedd y cynhyrchiad yn adlewyrchu hynny, y gor ymadroddi cras, y gor ystymio pantomeim, y comedi tebyg I ‘Ifan sy ma’, y set a gwisgoedd ‘retro’ o’r 70au – yr wyddbwyll?, y miwsig a’r goleuo di ystyur anghyson. A’r simsanu rhwng Cymraeg a Saesneg - ystafell ymarfer plis ac nid yn y cynhyrchiad terfynol!

Ie mae yna her I wneud Shakespeare yn brofessiynnol ac wrth gwrs y dylasai’r Theatr Genedlaethol honedig ceisio I gynhyrchu y dramâu ond at bwrpas ac o safon eithriadol sy’n gweddi I’r statws mae’r cwmni am gyrraedd. Nid oedd dewis Romeo a Juliet yn ddoeth – ond efallai y mae hi yn llyfr gosod eleni ac yn sicrhau gynulleidfa o blant. Mi fuasai’n llawer gwell gennyf I wedi gweld Y Dymestl (The Tempest) neu Brenin Llyr (King Lear) gyda’n brif actorion mwyaf profiadol yn gadarn wrth y llyw.

Reviewed by: Ceri Sherlock

back to the list of reviews

This review has been read 720 times

There are 49 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk