Ydi'r cryman wedi hen rydu? |
Theatr Genedlaethol Cymru |
Theatr Genedlaethol Cymru- Cysgod y Cryman , Theatr Brycheiniog Aberhonddu (Brecon) , April 9, 2007 |
Pan gadarnhawyd mai addasiad llwyfan o Gysgod y Cryman fyddai cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, digon cymysg oedd fy ymateb. Yn ddiau roedd y nofel o eiddoÅfr diweddar Islwyn Ffowc Elis yn gampwaith ym mhob ystyr. Ond gellid ystyried mawredd y testun yn fantais ac yn anfantais wrth fynd ati iÅfw gynnig fel arlwy theatrig. Gwyddai swyddogion y Theatr Genedlaethol y deuai digon o sylw wrth addasu un o weithiau mwyaf ein traddodiad llenyddol; roedd gwerthiant tocynnau ym Mangor, Yr Wyddgrug a Chaerdydd yn brawf o hynny. Yn bersonol, teimlais mai peth braf oedd cael ymweld _ Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu am y tro cyntaf a gweld y theatr yn gyfforddus lawn am ddwy noson yn olynol. Ar y llaw arall, teg yw gofyn ai doeth ymgymryd _Åfr dasg o addasu gwaith mor adnabyddus ac anferthol, yn arbennig o gofio mai aflwyddiannus fuÅfr ymdrech i addasuÅfr deunydd ar gyfer y teledu flynyddoedd yn n_l. Fel gyda chynyrchiadau blaenorol y cwmni hwn, cafwyd set anferthol yn ganolbwynt iÅfr chwarae. Gwnaed cymaint o ddefnydd oÅfr llwyfan crwn symudol - gan ei ddefnyddio fel cyfrwng teledyddol i doddi oÅfr naill olygfa iÅfr llall - fel ei fod ar brydiauÅfn syrffedus ac yn fwrn, ac yn atgoffa rhywun oÅfr gyfres Magic Roundabout. Yn waeth na hynny, fel yng nghynhyrchiad Yr Hen Rebel, defnyddiwyd lluniau amrywiol yn gefndir i ddynodiÅfr gwahanol leoliadau. Ni welaf unrhyw ddiben iÅfr delweddau hyn - siawns nad ywÅfr gynulleidfaÅfn meddu ar ddigon o grebwyll a dychymyg i ddeall union leoliad y chwarae oÅfu blaenau. Drwyddi draw roedd y perfformiadauÅfn ddigon twt, ond o bryd iÅfw gilydd roedd ambell actor yn methu dygymod _Åfr acen unigryw, ac ambell un arall yn euog o fynd ychydig yn felodramatig. Y rhai a lwyddodd i argyhoeddi yn fwy naÅfr gweddill oedd Carwyn Jones, Llion Williams, Owen Arwyn a Lisa J_n a hynny, yn anad dim, yn bennaf oherwydd eu cynildeb. Yng nghanol y cynhyrchiad cafwyd dwy olygfa oedd yn weladwy ac yn glywadwy hyfryd, sef golygfa gosod y posteri gydaÅfr nos ym Mangor, aÅfr olygfa o ddychwelyd i Leifior ar gyfer y Nadolig. Yn ddi-os, dyma olygfeydd mwyaÅf bywiog a theatrig, a thrueni na chafwyd rhai cyffelyb drwy gydol y cynhyrchiad. Yn nhraean olaf y ddrama mae Harri yn cyfaddef iddo alaru ar yr ymgais i weithreduÅfr disgwyliadau a osodwyd ar ei ysgwyddau. Mae wediÅfi ddryllio wrth geisio gwiredduÅfi ddelfrydau, ac fel canlyniad i hynny sylweddola mai dilyn ei reddf aÅfi galon oedd y ffordd orau i fyw ei fywyd, ac i gyflawni boddhad mewnol. Heb amheuaeth roedd y ddwy olygfa y cyfeirir atynt uchod yn clecian, a gresyn nad aeth Cefin Roberts ati i fanteisio ar ei allu aÅfi ddawn i lwyfannu cynhyrchiad yn null a thraddodiad y golygfeydd hynny. Byddai addasiad mwy herfeiddiol ac anghonfensiynol wedi cynnig persbectif a dehongliad hollol newydd iÅfr testun gwreiddiol. Wrth ymadael _ Theatr Brycheiniog roedd rhywun yn gwrando ar y gynulleidfa ac yn cael modd i fyw wrth glywed y sylwadau aÅfr ymateb. Roedd y genhedlaeth h_n wedi mwynhauÅfn fawr, gan ychwanegu pa mor bwysig yw cael cynyrchiadau o'r fath yn ymweld _ chanolfannau fel Aberhonddu _ ac ni ellid ond amenio hynny. Ar y llaw arall, nododd rhai oÅfr genhedlaeth iau iddynt brofi anhawster wrth geisio deall yr iaith a glywyd ar y llwyfan, ac yn mynegi hynny yn Saesneg. Roedd gan ambell un fwy o ddiddordeb mewn tecstio cyfoedion i weld beth oedd sg_r diweddaraf y g_m b_l-droed rhwng Lerpwl a Barcelona. Efallai fod eu byd bellach yn nes at fyd Sefton Park a Paul Rushmere nag at gaeau gwyrdd a chefn gwlad Harri Vaughan. Ond nid ffenomen syÅfn unigryw i ardal odidog Brycheiniog mo hynny. Efallai mai rhinwedd pennaf y cynhyrchiad oedd iddo ddadlennu cymaint y mae ein bywydau aÅfn cymdeithas wedi newid mewn cyfnod cymharol fyr. Yn ogystal _ thrafod gwrthdaro syniadaethol, mae'r ddramaÅfn darlunioÅfr modd y bu i bobl ar ddechrau'r 1950au wirioni ar gael adnoddau fel hwfyr a pheiriant golchi yn eu tai, aÅfr modd y trawsnewidiwyd eu bywydau cymdeithasol wrth i gerddoriaeth bop atseinio mewn caffis a thafarndai. A ninnauÅfn byw yn oes yr hoodies, y soundbites a theledu realaeth, maeÅfn anodd amgyffred sefyllfa lle y bu i fyfyrwyr goleddu syniadau a ystyriwyd ar y pryd yn rhai chwyldroadol ac yn beryglus i barhad y status quo. Gydag etholiadauÅfr Cynulliad ar y gorwel, gwelwyd Tony Blair yn Llandudno y penwythnos hwn yn annerch ffyddloniaid ei blaid am y tro olaf yn rhinwedd ei statws fel Prif Weinidog, a hynny tra bod y pleidiau gwleidyddol eraill yn hogi eu harfau ar gyfer eu cynadleddau hwythau aÅfr frwydr etholiadol oÅfu blaenau. Yn y ddrama cyfeiriwyd at Lenin fel gwleidydd pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Ond eto i gyd, yn gynharach yr wythnos hon gwelwyd dadorchuddio cerflun oÅfr Fonesig Thatcher yn Llundain fel arwydd oÅfi chyfraniad aÅfi phwysigrwydd i wleidyddiaeth Prydain. DymaÅfr gwleidydd a nododd gydag arddeliad nad yw cymdeithas yn bodoli, ac mai unigolyddiaeth syÅfn teyrnasu. Os gwir ei geiriau, ymddengys bod y cryman wedi hen rydu, syÅfn tanlinelluÅfr angen dybryd am ddeunydd creadigol ysgrifenedig a theatrig i ysbrydoli a deffro cenedl oÅfi thrwmgwsg. |
Reviewed by: Dafydd Llewelyn |
This review has been read 2035 times There are 46 other reviews of productions with this title in our database:
|