Theatre in Wales

Theatre, dance and performance reviews

Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Genedlaethol Cymru- Yn Debyg iawn Ti a Fi , Theatr Clwyd , April 24, 2004
Theatr Genedlaethol Cymru by Theatr Genedlaethol Cymru- Yn Debyg iawn  Ti a Fi Wedi blynyddoedd o drafod, a hir ddisgwyl, wele’n cychwyn ein Cwmni Theatr Cenedlaethol o harbwr Theatr Clwyd, ar noson deg… Wele’n cychwyn nid tair-ar-ddeg o actorion profiadol, ond yn hytrach pedwar; Mynd y mae i…’gynnig arddull theatr gyffrous a chyfoes’ a ‘chynyrchiadau o’r safon uchaf posib, yn atyniadol ac yn greadigol’; Ac wele Cefin... dewr ei fron…yn gapten ar y llynges hon…

‘Does dim dwywaith mai antur enbyd ydyw hon, a phawb yn gobeithio mai cynulleidfa deilwng a gwerthfawrogol a’i deil o don i don. Ond cyn cychwyn unrhyw daith, rhaid paratoi a chynllunio’n ofalus. Dewis y criw cywir, a’r cyfarpar addas i ystwytho’r daith… pedwar actor talentog gyda blynyddoedd o brofiad; diweddariad o’r ddrama ‘Yn Debyg Iawn i Ti a Fi’ gan Meic Povey – chwarae’n saff efallai, yn dilyn llwyddiant Theatr Bara Caws gyda’r ddrama (ac un aelod o’r cast gwreiddiol gyda llaw) nôl ym 1995; myrdd o gyfweliadau ar y radio a theledu gan gynnwys dyddiadur fideo gan Bryn Fôn ar S4C, dan y teitl ‘Ffactri Breuddwydion’ yn ein tywys yn nosweithiol drwy’r ymarferion a’r paratoi. Hyn oll ynghyd â lawnsiad swyddogol, Bwrdd o aelodau ‘brwd ac ymroddedig’, Cyfarwyddwr Artistig a Phedwar Actor Craidd, Rheolwr Cyffredinol, Swyddog Marchnata, Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig / Swyddog Addysg, Gweinyddwr a Swyddog y Wasg – fuo na ‘rioed daith mor barod i wynebu’r unrhyw fôr…?

Roedd gen innau hefyd ddisgwyliadau uchel wrth ‘yrru ar yr A55 tuag at Theatr Clwyd; yn fwy felly, am imi wastad gael gwefr yno o weld cynhyrchiadau Clwyd Theatr Cymru yn y gorffennol; y wefr o weld cynhyrchiad Terry Hands o ddrama Peter Schaeffer ‘Equs’ yn fyw yn y co’. Ac i fod yn onest, ‘roeddwn i wirioneddol eisiau gwefr. Wedi disgwyl a dadlau cyhyd am ‘Theatr Genedlaethol’ , wedi’r holl sôn a’r heip am y ‘cwmni newydd’, wedi gweld gwaith Cefin Roberts gydag Ysgol Glanaethwy ac yn ffan o waith Meic Povey – roedd fy neges yn glir - plis, peidiwch â’n siomi i!

Roedd yr un brwdfrydedd i’w deimlo ac i’w glywed wrth gamu dros y trothwy yn yr Wyddgrug. Pawb am i’r theatr a’r cwmni lwyddo. Roedd gweld cymaint o gynulleidfa wedi dod ynghyd i’r noson gyntaf hefyd yn addawol, a chynnwrf y camerâu teledu a’r newyddiadurwyr yn arwydd sicr bod rhywbeth sbeshial iawn ar gychwyn.

Rhaid cyfaddef bod set chwaethus Rhian Cemlyn wedi gwneud argraff cyn i ‘run gair gael ei yngan. Parlwr a Chegin cefn wedi’i chloi mewn craig. Dechra da, meddwn i wrth fy hun. Yn anffodus i mi, a thua chwarter y gynulleidfa yn Theatr Anthony Hopkins, sylwais i ddim fod yna flwch teliffon coch a mymryn o ardd hefyd yn rhan o’r set – sylw na ddaeth i’r amlwg tan imi golli rhan gyntaf yr ail act gyda llaw!

Does dim dwywaith fod y gallu gan y cwmni yma i greu awyrgylch theatrig, ac fe deimlwyd hynny o’r eiliad cyntaf. Cord cerddorol pwrpasol, lleisiau yn y gwynt, y golau’n pylu’n araf a’r pedwar actor yn camu i’r llwyfan, a’u presenoldeb i’w weld a’i deimlo.

Mae stori’r ddrama yn eitha syml. Wedi angladd y fam, daw’r plant ynghyd i drafod pwy sydd am ofalu am y brawd sgitsoffrenig – ‘Derec’. Gyda Bryn Fôn fel ‘Glyn’ – y brawd a arhosodd yn ei filltir sgwâr a phriodi merch lleol – ‘Elin’ – Siw Huws; Gwenno Elis Hodgkins fel y chwaer afradlon a symudodd i’r Wirral a phriodi ‘John’; ac yna’r brawd arall, a ‘phroblem’ y teulu - ‘Derec’ a bortreadir yn wych gan Glyn Pritchard.

Er bod y stori ar yr wyneb yn syml, dyma ddrama gymhleth a phwerus iawn, a llawer iawn o’r gynulleidfa fel finna yn teimlo bod angen ei gweld hi eto er mwyn ei deall hi’n well. Mae’n amlwg fod yma ddiweddaru wedi bod, ac yn fwy amlwg y ffaith bod y ddrama wedi ei hymestyn, gan ychwanegu toriad yn ei chanol. Yn bersonol., mae’n well gen i’r fersiwn wreiddiol a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch. Allwn i’m peidio teimlo bod y fersiwn newydd yn tin-droi mewn mannau, ar gychwyn yr ail-act yn fwy na dim. Rhyw grwydro wnaeth y ddrama fel y cymeriadau ar y graig yng nghefn y llwyfan, cyn dod yn ôl sbelan wedyn at y prif gwestiwn yr oeddwn i am geisio ateb iddo – pwy oedd yn mynd i edrych ar ôl ‘Derec’?. Wn i’m yn iawn os ges i byth wybod, hyd yn oed wrth ‘yrru adref beth oedd tynged ‘Derec’ druan! Erbyn diwedd y ddrama, ‘roedd yna bob math o awgrymiadau, ond fawr ddim atebion. Ai felly oedd hi fod ysgwn i?...

Wele’n glanio…? Wel, yn sicr dyma gynhyrchiad gwerth i’w gweld, os mai dim ond er mwyn profi potenshial dramatig a theatrig sydd o fewn gallu’r cwmni. Potenshial a welwyd yn glir wrth geisio portreadu’r elfen sgitsoffrenig a berthynai nid yn unig i ‘Derec’, ond i’r cymeriadau oll. Falle mai nid dyma’r ddrama orau i gychwyn tymor ein Theatr Cenedlaethol, ond dadl arall ‘di honno. Er cystal perfformiad y pedwar actor, yn bersonol, chefais i ddim y wefr ‘roeddwn i’n ei geisio’r tro ‘ma. Siom efallai, ond gobaith sicr , fel llongau Madog gynt, bod cân newydd i’w chlywed ‘ar newydd draeth y newydd fyd’…

Reviewed by: Paul Griffiths

back to the list of reviews

This review has been read 1743 times

There are 37 other reviews of productions with this title in our database:

 

Privacy Policy | Contact Us | © keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk